Rydym yn cynnig gwasanaeth ymchwil ansoddol a meintiol i gleientiaid gan ddefnyddio amrywiaeth o fethodoleg â’r technegau casglu data diweddaraf. Gallwn ddarparu gwasanaeth ymchwil llawn, o ddylunio prosiect i adrodd, neu wasanaeth maes a thablu. Byddwn yn dylunio datrysiad unigryw sydd fwyaf addas ar gyfer eich anghenion.
Yn dibynnu ar eich gofynion, efallai mai ein harolygon Omnibws fyddai’r opsiwn mwyaf cost-effeithiol i chi.
Rydym yn darparu gwasanaeth ymchwil di-dor yn y Gymraeg ac yn ddwyieithog i gleientiaid pan fo angen, gyda siaradwyr Cymraeg rhugl yn ein tîm gweithredol.
Mae Beaufort wedi ymrwymo i ddarparu ymchwil o ansawdd uchel, ac mae gan ein tîm y wybodaeth, y brwdfrydedd a’r profiad i’ch darparu chi gyda datrysiadau ymchwil cost-effeithiol. Rydym yn gyfeillgar, agos-atoch ac mae gweithio â ni’n rhwydd!
Mae Beaufort yn achrededig gan y Recruiter Accreditation Scheme (RAS) a ddatblygwyd gan y Gymdeithas Ymchwil i’r Farchnad (MRS) a’r Association for Qualitative Research (AQR). Mae cyrraedd achrediad yn golygu y gallwch chi gael hyd yn oed mwy o hyder yn ansawdd ein gwaith ac yn sgiliau’n tîm maes i ddarganfod y cyfranogwyr cywir ar gyfer eich prosiect ansoddol. Mae’n gwella’r broses o recriwtio drwy gynllun hyfforddiant ac achrediad sy’n cydnabod gwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd ein recriwtiaid proffesiynol.
Pasiodd ein recriwtiaid RAS asesiad trydydd parti sy’n profi eu gwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd o fewn y maes recriwtio ansoddol ac mae disgwyl iddynt gadw eu sgiliau a’u gwybodaeth yn gyfredol drwy asesiad parhaus er mwyn parhau i fod yn achrededig gan y RAS.