Asiantaeth ymchwil marchnad fwyaf blaenllaw Cymru

Yn cynnig ystod eang o arbenigedd mewn gwybodaeth sector a thechnegau ymchwil meintiol / ansoddol

Darganfyddwch fwy

Yn cael ein ymddiried gan

Dyma rai o'r cwmnïau yr ydym yn cael y pleser o weithio gyda nhw

BBC Wales LogoWelsh Government LogoVisit Wales LogoForestery England LogoCardiff University LogoNHS Wales Logoty hafan logoEnvironment AgencyKeolus amey logoGolley Slater LogoS4C LogoIntellectual Property Office Logo
BBC Wales LogoWelsh Government LogoVisit Wales LogoForestery England LogoCardiff University LogoNHS Wales Logoty hafan logoEnvironment AgencyKeolus amey logoGolley Slater LogoS4C LogoIntellectual Property Office Logo
BBC Wales LogoWelsh Government LogoVisit Wales LogoForestery England LogoCardiff University LogoNHS Wales Logoty hafan logoEnvironment AgencyKeolus amey logoGolley Slater LogoS4C LogoIntellectual Property Office Logo
BBC Wales LogoWelsh Government LogoVisit Wales LogoForestery England LogoCardiff University LogoNHS Wales Logoty hafan logoEnvironment AgencyKeolus amey logoGolley Slater LogoS4C LogoIntellectual Property Office Logo
BBC Wales LogoWelsh Government LogoVisit Wales LogoForestery England LogoCardiff University LogoNHS Wales Logoty hafan logoEnvironment AgencyKeolus amey logoGolley Slater LogoS4C LogoIntellectual Property Office Logo

Rydym wedi bod yn helpu cleientiaid ers 1984. Rydym yn teilwra ein gwasanaethau ymchwil ansoddol a meintiol i sicrhau eich bod chi'n derbyn y wybodaeth angenrheidiol i wneud penderfyniadau gwybodus.

Rydym yn asiantaeth ymchwil i’r farchnad sy’n canolbwyntio ar Gymru, a hefyd yn darparu gwasanaethau ar draws y DU.

Mae cryfder a dyfnder ein hadnodd ymchwil, ynghyd ag ansawdd ein tîm yn golygu ein bod ni’n cynnig amrywiaeth eang o arbenigedd – o ran gwybodaeth am y sector a thechnegau ymchwil ansoddol / meintiol. Ein nod yw darparu ymchwil gyda’r potensial i lywio newid sydd wedi ei danategu gan ein hymrwymiad i ansawdd.

Darganfyddwch fwy
EIN GWASANAETHAU

Sut allwn ni eich helpu chi?

Angen omnibus, Ciplun neu arolwg pwrpasol? Gallwn eich helpu

Bespoke Qual and Quant Insight Image

Mewnwelediad ansoddol a meintiol pwrpasol

Oes  angen rhywbeth wedi'i deilwra arnoch chi fel arolwg ymchwil marchnata neu  rywbeth cwbl unigryw? Gallwn ni helpu. Mae gennym amrywiaeth o opsiynau.

Darganfyddwch fwy >
Omniubus Surveys Image

Arolygon
Omnibus

Mae  arolygon omnibws yn ddull sefydledig o gynnal ymchwil marchnad a  chymdeithasol. Fel y mae eu henw yn awgrymu, maent yn galluogi grŵp o  ddefnyddwyr i rannu'r un arolwg.

Darganfyddwch fwy >
Snapshot Survey Image

Arolwg
Ciplun

Oes  angen mewnwelediad cyflym, dibynadwy arnoch gan sampl gynrychioliadol o  boblogaeth Cymru? Ein Harolwg Ciplun Cymru newydd yw'r ateb

Darganfyddwch fwy >
Manteision

Sicrhewch y mewnwelediadau sydd eu hangen
arnoch pan fyddwch eu hangen

UK wide capabilities icon

Galluoedd ledled y DU

Gallwn ddiwallu eich anghenion ymchwil ledled y DU.

A range of Wales Omnibus Surveys Icon

Ystod o arolygon Omnibws Cymru

Arolygon Omnibws Cymru, Busnes, Plant a Siaradwyr Cymraeg.

Tailored Market Research Solutions Icon

Datrysiadau ymchwil marchnad wedi'u teilwra

Arbenigedd  yn y sector preifat a chyhoeddus, sy'n eich helpu i gyflawni eich amcanion.

Welsh Speaking Specialism Icon

Arbenigedd yn y Gymraeg

Fel asiantaeth ddwyieithog, mae cynnal ymchwil yn y Gymraeg yn un o'n cryfderau craidd.

BETH MAE POBL YN DDWEUD AMDANOM NI

“Mae arweiniad a doethineb eich tîm wedi bod mor braf, gan helpu i ddatrys problemau ac amlygu cyfleoedd i ni ar sawl achlysur. Bu'n bleser ac rydych wedi gwneud i'r cyfan edrych mor rhwydd (er rwy'n gwybod nad yw hynny'n wir bob tro).”

Paul Tapley - Pennaeth Marchnata
Trafnidiaeth Cymru

“Cawsom gymorth gan Beaufort i roi cynnig ar syniadau creadigol cymhleth gyda grwpiau oed gwahanol. Gwnaethant reoli'r trafodaethau o fewn y grwpiau'n glir, gydag amynedd a'n helpu ni i ddeall ymateb ein cynulleidfa, ac oherwydd hynny, datblygu gwaith creadigol effeithiol.”

Jemma Gabb - Pennaeth Earned Media
Golley Slater

“Roedd Beaufort Research yn bartner allweddol ar un o brosiectau mwyaf Chwaraeon Cymru - sef yr Arolwg Chwaraeon Ysgol. Yn ystod ein 18 mis o weithio'n agos gyda thim Beaufort, cawsom ein hysbrydoli gan eu creadigwydd a'u gallu i ddatrys problemau. Roedd eu dull tuag at gyfathrebu a chydweithredu'n adfywiol, ac roedd eu sylw at fanylion yn wych. Roedd hi wir yn bleser cael cydweithio gyda nhw ar brosiect mor allweddol, mi lwyddodd ein gwaith, i raddfa helaeth ar sail eu profiad a'u harbenigedd.”

Steffan Berrow - Arweinydd Ymchwil Defnyddwyr
Chwaraeon Cymru

“Cwmni dibynadwy, gwybodus a chefnogol fydd yn eich arwain chi i ganfod data ymchwil craff a dylanwadol.”

Caroline Nichols - Ymarferydd Hyrwyddo lechyd
Tim lechyd Cyhoeddus Hywel Dda

“Helpodd Beaufort i wneud y broses profi yn llawer fy syml ac yn ddi-straen. Roedd y cyswllt rheolaidd ac ansawdd y cyngor o'r radd flaenaf, ac mae'r adborth y bu i ni ei derbyn yn yr adroddiad terfynol wedi helpu i siapio ein hymgyrch â'r deunyddiau marchnata. Roedd yn fewnwelediad gwerthfawr tu hwnt.”

Nicola Roberts - Cyfarwyddwr
Freshwater

“Fe weithiodd y prosiect "Panel Pobl" yn dda iawn i S4C, gan i staff Beaufort Research weithio'n galed i'w gael i lwyddo. Fe Iwyddodd y cwmni i gadw diddordeb y panelwyr dros gyfnod hir, sydd yn dasg anodd, ac roedd yr holl wybodaeth o ddefnydd mawr i ni. Rydym yn hapus iawn gyda'r gwaith.”

Carys Evans - Pennaeth Dadansoddi
S4C

“Mae agwed Beaufort at y gwaith hwn wedi gwneud argraff dda arnaf. Maent wedi buddsoddi amser gwerthfawr yn datblygu dealltwriaeth ddofn o'n busnes. Maent hefyd wedi dangos hyblygrwydd a phragmatiaeth wrth addasu eu hagwedd at waith maes yng ngoleunir pandemig. Yn allweddol, ni wnaeth hyn effeithio ar ansawdd ac mae'r canlyniadau cyfoethog yn eu hadroddiad terfynol wedi mynd y tu hwnt i'n disgwyliadau.”

Arthur West - Pennaeth Deall Cwsmeriaid
Y Swyddfa Eiddo Deallusol

“Darparodd Beaufort wasanaeth gwych drwy gydol y prosiect. Bu iddynt weithio ag ystod eang o randdeiliaid ar lefel uwch a thrin ein gwaith gyda sensitifrwydd, gallu a phroffesiynoldeb. Roedd yr allbynnau o safon gwych. Darparwyd diweddariadau drwy'r prosiect. Byddwn yn argymell eu defnyddio yn fawr.”

Olivia Thomas - Uwch Reolwr Polisi Morol
The Crown Estate

“Roedd gan y cyfwelwyr ddiddordeb yn y pwnc roeddynt yn ei ymchwilio ar ein rhan. Roeddynt yn ymrwymo i ddeall natur sensitif hosbisau plant cyn cysylltu â theuluoedd, a oedd yn sicrhau bod eu dull nid yn unig yn broffesiynol ond hefyd yn dosturiol a charedig.”

Clare Robinson - Rheolwr Llywodraethu a Chytundebau
Naomi House & Jacksplace

“Rydym yn falch iawn gyda’r adroddiad; mae’n broffesiynol iawn, yn taro cydbwysedd da fel cyfrif cynhwysfawr o’r data ystadegol ac yn ddarllenadwy ar yr un pryd.”

June Jones - Arweinydd  Ymgyrch
Amser i Newid Cymru

"Diolch yn fawr iawn am eich cyflwyniad ardderchog. Mae cynnwys eich sleidiau a’r gwaith yr ydych wedi’i wneud wedi ennyn cryn ddiddordeb ar draws y system, gyda nifer o geisiadau am yr adroddiadau llawn a’r canfyddiadau. Diolch unwaith eto am eich cyfraniad amhrisiadwy i’n gwaith ym maes dibyniaeth ar nicotin yng Nghymru. Gobeithiwn gael y cyfle i gydweithio â chi eto yn y dyfodol."

Rachel Howell – Prif  Ymchwilydd Iechyd Gwahardd
Iechyd Gwladol Cymru
ASTUDIAETHAU ACHOS
Darparu mewnwelediad i anghenion pobl ifanc 16-24 oed yng Nghymru o ran addysg, hyfforddiant, a gwaith

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn dylanwadu ar ei phenderfyniadau yng nghyswllt polisïau a gweithgareddau sy’n eu heffeithio.

Mae’r Warant i Bobl Ifanc yn ymrwymiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pobl ifanc yng Nghymru’n derbyn y gefnogaeth a’r cyfleoedd y mae eu hangen arnynt i gyflawni eu potensial, yn...

Darllenwch fwy >
Newyddion blaenllaw

Newyddion diweddaraf

Daliwch i fyny ar ein newyddion a blogiau

20.12.2024
Nadolig Llawen! Cefnogi Cartref Cŵn Caerdydd

Bob blwyddyn adeg Nadolig mae Beaufort Research yn gwneud cyfraniad i elusen leol yn hytrach nag anfon...

Darllenwch fwy >
4.11.2024
Sut y gwnaeth dyddiaduron ein helpu i ymchwilio’n fanylach i arferion fepio

Credir bod dyddiaduron wedi bodoli mewn rhyw siâp neu ffurf ers i'r pyramidiau Aifft gael eu hadeiladu...

Darllenwch fwy >
3.10.2024
Cyhoeddi canfyddiadau’r arolwg newid hinsawdd

Mae gan Lywodraeth Cymru sawl ymrwymiad i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys...

Darllenwch fwy >
18.3.2024
Ystyried sut i hyrwyddo tegwch yn system gymwysterau Cymru

Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi gwaith ansoddol a gynhaliwyd gan Beaufort ar...

Darllenwch fwy >

Gadewch i ni siarad

Oes gennych chi her ymchwil neu angen mewnwelediad i lunio'ch strategaeth? Gadewch i ni siarad! Yn Beaufort Research, rydym yn ffynnu ar droi eich cwestiynau yn atebion ystyrlon sy'n ysgogi gweithredu.

Gadewch i ni siarad
Cysylltwch â ni

Eisiau gwybod sut y gallwn eich helpu chi?

Defnyddiwch y ffurflen isod a/neu e-bostiwch hello@beaufortreasearch.co.uk i ddarganfod sut y gallwn eich helpu gyda'ch anghenion ymchwil.

Thank you! Your submission has been received!
Oops! Something went wrong while submitting the form.
Trwy glicio “Derbyn”, rydych yn cytuno i storio cwcis ar eich dyfais i wella llywio'r safle, dadansoddi defnydd o'r safle, a chynorthwyo ein hymdrechion marchnata. Gweler ein Polisi Preifatrwydd am ragor o wybodaeth.