Pleaser yw cael ymrwymo i alwad Amser i Newid Cymru lle gofynnir i gyflogwyr wneud addewid sefydliadol i herio’r stigma sydd ynghlwm wrth iechyd meddwl.
I ddangos ein hymrwymiad, rydym wedi defnyddio’r cymorth a gawsom gan dîm Amser i Newid Cymru i lunio cynllun gweithredu er mwyn sicrhau bod iechyd meddwl yn parhau i gael lle blaenllaw yn y gweithle a’i fod yn faes y mae’r staff o’r farn eu bod yn cael cefnogaeth ynddo.
Aeth Beaufort ati i wneud yr addewid sefydliadol hwn mewn cyfarfod staff, a phleser oedd cael croesawu’r siaradwyr gwadd Ceri Williams o Amser i Newid Cymru a Stuart Lewis, Hyrwyddwr Amser i Newid Cymru, i’r cyfarfod hwnnw. Cyflwynodd Ceri gyd-destun dadlennol ynglŷn â’r heriau sydd ynghlwm wrth stigma iechyd meddwl a gwahaniaethu; a chyflwynodd Stuart sgwrs bwerus ynglŷn â’i brofiadau ei hun.
Yn ôl Fiona McAllister, Rheolwr Gyfarwyddwr Beaufort, “Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un anodd mewn sawl ffordd. Rydym eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn cefnogi iechyd meddwl ein staff trwy gymryd camau ymarferol. Felly, ymhlith pethau eraill, rydym yn ymgorffori iechyd meddwl a lles yn ein system arfarnu, yn parhau i adolygu polisïau Adnoddau Dynol cyfredol i sicrhau bod ein gweithle’n cefnogi pobl sy’n cael problemau iechyd meddwl, ac yn annog y staff i siarad am y pwnc yn rheolaidd. Rydym wir yn gwerthfawrogi’r cymorth a gawsom gan staff Amser i Newid Cymru”.
Daethom yn ymwybodol o’r fenter wrth fynd i’r afael ag ymchwil ar gyfer Amser i Newid Cymru yn ymwneud â datblygiad creadigol cyfathrebu. Yn awr, yn fwy nag erioed, sylweddolwn pa mor bwysig yw annog a chefnogi iechyd meddwl da yn y gweithle, o gofio heriau’r flwyddyn ddiwethaf a phandemig y coronafeirws.