Beaufort Rhybudd Preifatrwydd

Pwy yw Beaufort Research?

Busnes ymchwil y farchnad ac ymchwil gymdeithasol yw Beaufort Research. Mae’n darparu ystod o wasanaethau ymchwil feintiol ac ansoddol i gwsmeriaid yn y sectorau preifat a chyhoeddus.

Pa fanylion yr ydym yn eu casglu a sut ydym yn eu defnyddio?

Byddwn yn casglu gwybodaeth at ddibenion ymchwil yn unig. Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir yn cael ei defnyddio at ddau ddiben yn unig:

  1. Mae’n bosibl y bydd y tîm yn ein prif swyddfa yn defnyddio eich manylion cyswllt megis enw, cyfeiriad a rhif ffôn i gysylltu â chi. Yn bennaf, er mwyn gweld pa un a gynhaliwyd y cyfweliad yn briodol ac yn unol â Chod Ymarfer y Gymdeithas Ymchwil i’r Farchnad. Mae hyn yn rhan o’n gweithdrefnau rheoli ansawdd.
  2. Bydd gwybodaeth megis oedran, rhywedd ac ethnigrwydd yn cael ei chyfuno â gwybodaeth am bobl eraill yr ydym yn eu cyfweld fel bod canfyddiadau’r ymchwil yn cael eu hadrodd mewn grwpiau cyfunol (e.e. 16-34 oed, dynion, etc.). Ni fydd eich atebion i gwestiynau yn datgelu pwy ydych chi.

 Pwy sy’n gallu cael mynediad at eich manylion?

Cedwir yr holl fanylion yn ddiogel ar ein gweinyddion ac ond staff Beaufort sy’n rhan o brosiectau ymchwil fydd yn gallu cael gafael arnynt. Nid yw eich manylion yn cael eu rhannu ag unrhyw sefydliadau eraill oni bai eich bod wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny.

Eich hawliau

Bydd unrhyw fanylion personol amdanoch chi y gellid eu defnyddio i ddatgelu pwy ydych chi yn cael eu cadw am uchafswm o 3 mis ar ôl i’r prosiect orffen. Ond os ydych yn dymuno i ni ddileu’r manylion hyn o’n systemau ar unrhyw adeg, e-bostiwch dataprotection@beaufortresearch.co.uk gan nodi hynny. Yn ogystal, mae gennych yr hawl i:

  • Gael mynediad at unrhyw ddata sydd gennym amdanoch
  • Cywiro unrhyw wallau yn y data sydd gennym amdanoch
  • Cyfyngu ar unrhyw brosesu ar y data sydd gennym amdanoch.

Mae hefyd yn bosib gwneud hyn drwy anfon neges e-bost i  dataprotection@beaufortresearch.co.uk neu drwy ysgrifennu atom yn Beaufort Research, 2 Plas yr Amgueddfa, Caerdydd CF10 3BG.

Os nad ydych yn fodlon ar ymateb Beaufort, neu os ydych o’r farn nad ydym yn prosesu eich data personol yn unol â’r gyfraith, gallwch gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth https://ico.org.uk/concerns/handling/

 

Adolygwyd ddiwethaf: 22 Ionawr 2021