20/12/24

Nadolig Llawen! Cefnogi Cartref Cŵn Caerdydd

Bob blwyddyn adeg Nadolig mae Beaufort Research yn gwneud cyfraniad i elusen leol yn hytrach nag anfon cardiau Nadolig. Eleni fe benderfynon ni gefnogi Cartref Cŵn Caerdydd i’w helpu gyda’r gwaith gwych maen nhw’n ei wneud i ddod o hyd i gartrefi newydd ar gyfer cŵn sydd wedi’u gadael. Bydd rhai ohonoch yn gwybod bod gan ein Rheolwr Gyfarwyddwr, Fiona McAllister, ddau gi achub (Dave a Portia – y ddau yn Labrador siocled) felly mae’n achos sy’n agos at ein calonnau.

Yn gynharach yr wythnos hon, fe wnaeth rhai ohonom ddod i lawr i’r Cartref Cŵn i gwrdd â’u tîm. Yn ogystal â’n rhodd, aethom â rhai danteithion cŵn a theganau cŵn i breswylwyr fel y gallant gael ychydig o hwyl dros y Nadolig.

Esboniodd Ellie o’r Cartref y Cŵn y bydd ein rhodd yn helpu i ariannu llawdriniaeth SARB (Syndrom Awyr Rhwystrol Brachycephalic) ar gyfer Cariad, ci tarw Ffrengig benywaidd a phreswylydd hirdymor sy’n cael problemau gyda’i hanadlu. Roedd yn frawychus darganfod pa mor gyffredin y mae’r broblem hon wedi dod, wrth i ffroenau’r brîd fynd yn gulach trwy fridio eithafol.

Cawsom hefyd cwtsh gyda Phwdin – ci preswyl newydd hyfryd! Cafwyd hyd i Pwdin yn segur ac yn dioddef o ddiffyg maeth mewn maes parcio yng Nghaerdydd yn ddiweddar ac mae’n cael ei nyrsio yn ôl i iechyd yng Nghartref Cŵn Caerdydd. Croesi bysedd mae hi’n dod o hyd i gartref newydd yn fuan. Os ydych chi’n chwilio am gi, ystyriwch fabwysiadu un – mae cymaint o gŵn angen cartrefi da.

Nadolig Llawen pawb a Blwyddyn Newydd Dda gan bob un ohonom yn Beaufort!