17/12/19

Owen Knight

Ers ymuno a thîm Beaufort yn 2001, mae gyrfa Owen wedi canolbwyntio ar ymchwil arolwg meintiol. Mae’n ymchwilydd profiadol tu hwnt, gyda sgiliau sydd wedi’u datblygu i ansawdd uchel mewn dylunio holiaduron, samplo, dadansoddi a dehongli data.

Mae ei brofiad helaeth yn ymestyn ar draws amrywiaeth o sectorau a dulliau – boed yn arwain rhaglenni ar raddfeydd sylweddol ac olrhain ymchwil a gynhaliwyd gyda degau ar filoedd o gyfranogwyr ymchwil, i brosiectau mwy penodol megis ymgysylltu â rhanddeiliaid ymhlith cynulleidfaoedd sy’n anodd eu cyrraedd gan gynnwys Aelodau Seneddol, Aelodau Cynulliad ac arglwyddi.

Fel siaradwr Cymraeg rhugl, mae Owen wedi llwyddo i gynnal astudiaeth ymchwil ar ran nifer o sefydliadau iaith Gymraeg amlwg, ac yn ymgorffori dwyieithrwydd i unrhyw astudiaeth yn rhwydd.

Pan nad yw yn Beaufort, mae Owen yn treulio llawer o’i amser yn gwneud y gorau o’r amgylchedd naturiol, ac mae’n mwynhau beicio mynydd, sgïo, neu gerdded yn yr Alpau (neu’n amlach, ym mynyddoedd a choedwigoedd llai De Cymru)!