19/01/24

Beaufort yn cyfrannu at adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru

Braf oedd gweld adroddiad y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn cael ei gyflwyno yr wythnos ddiwethaf yn y Senedd, ac mae’n destun balchder fod ymchwil Beaufort ymhlith pobl Cymru wedi bwydo ei ganfyddiadau.

Dros gyfnod o flwyddyn a hanner buom yn gweithio gyda’r Comisiwn i sicrhau bod barn y cyhoedd yng Nghymru (ac yn bwysig, nid barn y rhai sydd â’r diddordeb mwyaf neu’n ymgysylltu fwyaf â gwleidyddiaeth yn unig) yn cael ei hystyried. Cynaliasom ymchwil ansoddol hydredol gan ddefnyddio dau gam o broses paneli dinasyddion cydgynghorol, wedi’u hategu gan gymuned ar-lein, ac arolwg Cymru gyfan o sampl fawr, gynrychioliadol o’r cyhoedd i ddarparu data cadarn, cynrychioliadol i hysbysu gwaith y Comisiwn.

Mae strwythurau llywodraeth a newid cyfansoddiadol yn amlwg yn bynciau heriol i’w harchwilio, yn enwedig yn erbyn cefndir o ymgysylltiad isel â gwleidyddiaeth, felly bu’n rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd arloesol a chyflwyno ac egluro’r pwnc ac ennyn diddordeb pobl er mwyn cael adborth defnyddiol. Rhoddodd y broses gydgynghorol y wybodaeth yr oedd ei hangen ar gyfranogwyr i ddatblygu barn fwy gwybodus ar y cyfansoddiad a’r opsiynau ar gyfer y dyfodol, a dangosodd llawer ohonynt fwy o ddiddordeb gan ddod yn fwy cysylltiedig wrth i’r misoedd fynd heibio.

Cawsom ein gwobrwyo wrth weld y cyfranogwyr yn dod ar daith gyda ni, lle dechreuodd rai drwy deimlo nad oeddent yn gwybod dim (nac yn poeni dim mewn sawl achos) am sut y mae Cymru yn cael ei rhedeg, ond erbyn diwedd y broses roeddent yn teimlo eu bod wedi cael agoriad llygad yng nghyd-destun pwnc nad oeddent wedi meddwl llawer amdano yn flaenorol.