28/05/21

Beaufort yn rhoi cipolwg i Iechyd Cyhoeddus Cymru ar effaith COVID-19 ar gyflogaeth ieuenctid

Rydym yn falch iawn ein bod wedi cyfrannu at waith Uned Penderfynyddion Ehangach Iechyd Cyhoeddus Cymru ar effaith COVID-19 ar gyflogaeth yng Nghymru. Mae cyfres o adroddiadau’r Uned yn cynnwys cyfraniadau gan bobl ifanc, sefydliadau’r trydydd sector a llunwyr penderfyniadau a dylanwadwyr yng Nghymru a gyflwynodd Beaufort, yn ogystal â map rhyngweithiol ar-lein o dystiolaeth yn ymwneud ag ymyriadau addawol i wella iechyd a thegwch iechyd trwy weithredu ar gyflogaeth.

Mae’r gwaith pwysig hwn wedi denu sylw yn y cyfryngau hefyd.

Mae’r proffiliau cryno a’r adroddiadau llawn ar gael ar dudalen we Gwaith da a theg Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’r gwaith hwn wedi canfod:
– Er gwaethaf cynlluniau COVID fel ffyrlo, yn 2020 gwelwyd cynnydd mawr mewn diswyddiadau a hawlio credyd cynhwysol
– Pobl ifanc, menywod, pobl ar dâl isel a grwpiau lleiafrifoedd ethnig gafodd eu heffeithio fwyaf gyda sectorau yn cau
– Mae llwybrau at waith wedi cael eu heffeithio, yn arbennig ar gyfer pobl ifanc agored i niwed
– Mae’r pandemig wedi dwysáu heriau oedd eisoes yn bodoli ymysg pobl ifanc o ran dod o hyd i waith o ansawdd da
– Dywedodd pobl ifanc wrthym bod effaith y pandemig wedi achosi straen, wedi bod yn anodd, yn ddiflas, yn galed, yn ansicr ac yn unig
– Mae ffactorau ehangach fel cysylltedd digidol a thrafnidiaeth yn chwarae rôl
– Mae marchnad lafur weithredol, marchnad lafur oddefol, polisïau sydd yn benodol i COVID, polisïau cymorth i deuluoedd a gwella amodau gwaith i gyd yn dangos addewid mewn perthynas â gwella iechyd a thegwch.