08/07/20

Boris Johnson wedi niweidio ei hygrededd yng Nghymru drwy gefnogi Dominic Cummings, yn ôl ein hymchwil

Mae rhan helaeth o boblogaeth Cymru yn credu bod hygrededd Boris Johnson fel Prif Weinidog wedi’i niweidio yn sgil ei gefnogaeth tuag at Dominic Cummings mewn perthynas â’r saga teithio yn y cyfnod clo.

Dengys ein hymchwil bod bron i 7 ym mhob 10 o bobl yng Nghymru (68%) yn teimlo fel hyn, tra bod llai nag 1 ym mhob 10 (7%) yn credu bod cefnogaeth Mr Johnson tuag at ei brif gynghorydd a strategwr gwleidyddol wedi atgyfnerthu hygrededd y Prif Weinidog. Teimla 2 ym mhob 10 o bobl na wnaeth y digwyddiad effeithio ar ei hygrededd o gwbl.

Mae pobl hŷn yng Nghymru (55+ oed) yn fwy tebygol na phobl ieuengach (16-34+ oed) o ystyried y gefnogaeth yn niweidiol, ac mae’r un peth yn berthnasol ymhlith menywod (71%) o’i gymharu â dynion (66%). Roedd y rheiny sy’n byw yn y Cymoedd (64%) yn gymharol llai tebygol na’r rheiny sy’n byw yn rhanbarthau eraill o Gymru i deimlo fel hyn.

Rhoddwyd y cwestiwn ‘Pa effaith, os o gwbl, ydych chi’n credu y mae cefnogaeth Boris Johnson tuag at Dominic Cummings wedi’i chael ar hygrededd Mr Johnson fel Prif Weinidog?’ yn rhan o arolwg Omnibws Beaufort ym mis Mehefin 2020. Cynhaliwyd y gwaith maes gan ddefnyddio panel ar-lein rhwng 10 a 22 Mehefin 2020. Cwblhawyd a dadansoddwyd cyfanswm o 1,000 o gyfweliadau gyda sampl gynrychiadol o oedolion 16+ oed ledled Cymru.