Edrych dramor am feysydd i’w gwella
Mae rhai o ymdrechion Swyddfa Eiddo Deallusol (ED) y Deyrnas Unedig i fod y Swyddfa ED orau yn y byd yn cael eu hadlewyrchu gan ei rhagolwg a’i gweithgareddau byd-eang. Mae’n gweithio gyda swyddfeydd ED tramor mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd i greu amgylchedd ED gwell i gwmnïau’r DU. Gyda’i hawch am welliant parhaus, mae ffocws byd-eang y SED yn broses ddwy ffordd: mae’r adborth y mae wedi’i gasglu gan gwsmeriaid yn awgrymu bod rhai arferion mewn swyddfeydd ED eraill yn werth eu hystyried fel cyfleoedd i wneud gwelliannau yng nghyfundrefn ED y DU.
Felly, mae’r SED wedi ein comisiynu ni i archwilio cyfleoedd i efelychu arfer enghreifftiol gan swyddfeydd ED eraill. Roedd gofynion y cleient yn amrywio o freintlythyrau, nodau masnach a dyluniadau ac arferion, polisïau a gweithdrefnau.
Roedd cyfnod clo COVID-19 ar ddechrau’r prosiect yn golygu bod rhaid i ni ailfeddwl ein dull gweithredu. Gwnaethom drafod rhinweddau a chyfyngiadau methodoleg newidiol gyda’r SED a phenderfynu ar gyfweliadau dros y ffôn (a rhai cyfweliadau dros Teams wedi hynny).
Roeddem yn cyfweld â phartneriaid, atwrneiod a staff uwch eraill mewn cwmnïau cyfraith ED a dibynnu ar ein Tîm Maes mewnol profiadol i drefnu’r cyfweliadau. Yn ogystal, cynaliasom ymchwil desg helaeth ynghylch y pynciau cyn gwneud gwaith maes i sicrhau ein bod yn cyflwyno wyneb credadwy i gwsmeriaid y cleient ac yn gallu archwilio’r meysydd o ddiddordeb i’r cleient yn effeithiol.
Bu i ddull gweithredu hynod gydweithredol gyda’r cleient sicrhau bod y prosiect yn rhedeg yn ddidrafferth er gwaethaf yr amgylchiadau unigryw ac aethom y tu hwnt i ddisgwyliadau’r cleient o ran ehangder a dyfnder y canfyddiadau. Mae’r canlyniadau yn cael eu defnyddio i helpu’r SED i ddeall yn well sut mae wedi’i meincnodi yn erbyn swyddfeydd tramor a darparu man cychwyn ar gyfer gweithgareddau ymgysylltu â swyddfeydd tramor.
Dywedodd y cleient: “Mae agwedd Beaufort at y gwaith hwn wedi gwneud argraff dda arnaf. Maent wedi buddsoddi amser gwerthfawr yn datblygu dealltwriaeth ddofn o’n busnes. Maent hefyd wedi dangos hyblygrwydd a phragmatiaeth wrth addasu eu hagwedd at waith maes yng ngoleuni’r pandemig. Yn allweddol, ni wnaeth hyn effeithio ar ansawdd ac mae’r canlyniadau cyfoethog yn eu hadroddiad terfynol wedi mynd y tu hwnt i’n disgwyliadau” (Arthur West, Pennaeth Deall Cwsmeriaid).
Dychwelyd i astudiaethau achos