Yr arolwg mwyaf yn y DU o bobl ifanc a chwaraeon

 

 

 

 

Mae Beaufort wedi bod yn gyfrifol am nifer o arolygon hunan-gwblhau a gynhaliwyd ar ran Chwaraeon Cymru, gan gynnwys Arolygon Chwaraeon Ysgol ac Addysg Bellach 2018. Mae’r arolygon hyn yn rhoi mewnwelediad cyfoethog am niferoedd sy’n cymryd rhan, ymddygiadau ac agweddau plant rhwng 7 ac 16 oed ac yn darparu gwybodaeth gywir am gyflwr darpariaeth AG yn ysgolion Cymru a sefydliadau AB.

Manteisiodd dros 120,000 o blant a phobl ifanc ar y cyfle i ddweud eu dweud ar chwaraeon a’u lles trwy arolygon meintiol ar-lein hunan-gwblhau. Roedd yr ymateb i’r arolwg mor fawr, ar un adeg cawsom 4,447 o ymatebion mewn un diwrnod! Gofynnwyd hefyd i aelod o staff o bob ysgol lenwi holiadur ar AG a darpariaeth chwaraeon yn eu hysgol. Cymerodd dros 1000 o ysgolion ran yn yr Arolwg Chwaraeon Ysgol, gan helpu i wneud hwn yr arolwg mwyaf o’i fath yn y DU.

Roedd pob ysgol a gymerodd ran a fodlonodd y gofynion sampl ar gyfer yr arolwg yn gymwys ar gyfer adroddiad unigol – a gydnabuwyd gan Estyn fel dangosydd ar gyfer tystiolaethu llesiant a darparu mewnwelediad ar gyfer teilwra cynigion ysgol tuag at alw disgyblion. Cynhyrchodd Beaufort fwy na 800 o’r adroddiadau hyn, gan gymharu canlyniadau’r ysgol â blynyddoedd blaenorol yn ogystal â’r cyfartaledd cenedlaethol. Cynhyrchwyd adroddiadau unigol hefyd ar gyfer pob un o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru.

Dychwelyd i astudiaethau achos