03/10/24

Cyhoeddi canfyddiadau’r arolwg newid hinsawdd

Mae gan Lywodraeth Cymru sawl ymrwymiad i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys niwtraliaeth carbon, plannu coed, Cynllun Sero Net Cymru, Fframwaith Addasu, a cynyddu ymgysylltiad y cyhoedd ar y pwnc.

Gan ganolbwyntio ar yr ymrwymiad diwethaf, comisiynwyd Beaufort gan SBW Advertising yn haf 2023 i gynnal arolwg yng Nghymru yn asesu:
– Ymddygiad presennol y cyhoedd o ran gweithredoedd i helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
– Parodrwydd y cyhoedd i fabwysiadu ymddygiadau penodol yn y dyfodol.
– Gwybodaeth am weithredoedd i helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
– Lle ceir gweithredu, pa gamau penodol sy’n cael eu cymryd.
– Lle na cheir unrhyw weithredu, beth yw’r prif rwystrau i wneud hynny.
– Tybiaethau o ba weithredoedd fydd yn cael yr effaith fwyaf ar newid hinsawdd.

Dyluniwyd arolwg 2023 i ddarparu data llinell sylfaen cyn lansio prif gam ymgyrch gyfathrebu Gweithredu ar Hinsawdd Cymru ar ran Llywodraeth Cymru ddechrau’r hydref. Y bwriad yw ailadrodd yr arolwg yn flynyddol i fonitro unrhyw newidiadau dros amser. Mae’r arolwg olrhain ymddygiad yn ategu cyfathrebu rheolaidd sy’n olrhain gwaith ymchwil sy’n monitro perfformiad yr ymgyrch. Dyma nodau cyffredinol yr arolwg olrhain ymddygiad:

– Monitro ymddygiad a gwybodaeth y cyhoedd a’u dealltwriaeth o weithredoedd a all helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
– Asesu parodrwydd i fabwysiadu ymddygiadau penodol i helpu i liniaru newid hinsawdd.
– Olrhain unrhyw newidiadau ar y mesurau hyn dros oes ymgyrch Gweithredu ar Hinsawdd Cymru.

Gallwch ddarllen mwy yma.