Roedd Cynllun Cymorth Hunanynysu a thaliad disgresiwn Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth i’r rhai a oedd yn eu derbyn o ran eu hamgylchiadau ariannol o ganlyniad i’r cyfnod hunanynysu, ac roedd y cymorth ariannol yn cael ei groesawu. Dyma un o ganfyddiadau ein hymchwil ansoddol ar gyfer Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sef, Heriau ariannol sy’n gysylltiedig â hunanynysu a chanfyddiadau o’r Cynllun Cymorth Hunanynysu yng Nghymru.
Fodd bynnag, mae’r ymchwil hefyd yn dod i’r casgliad bod hunanynysu wedi cael effeithiau niweidiol ar sefyllfa ariannol llawer o’r rhai a gymerodd ran yn yr ymchwil hwn, a bod ymwybyddiaeth o’r cynllun a’r taliad disgresiwn yn eithaf isel. O safbwynt ymarferol, i’r mwyafrif a wnaeth gais am gymorth, nid oedd y broses gwneud cais ar-lein yn rhwystr.
Gallwch ddarllen mwy ynghylch profiadau pobl yma, yn ogystal ag adolygiad mewnol Llywodraeth Cymru o’i chynllun yma.