12/01/23

Ein hymrwymiad parhaus i ddarparu gwasanaethau ymchwil o ansawdd rhagorol…

Rydym yn falch iawn o ddweud ein bod wedi bod yn llwyddiannus yn ein harchwiliad ansawdd gwasanaethau ymchwil diweddaraf – gan gadarnhau ein hachrediad i’r safon ryngwladol ar gyfer ymchwil i’r farchnad, ymchwil i farn ac ymchwil gymdeithasol, gan gynnwys dirnadaeth a dadansoddeg data (ISO 20252:2019) am flwyddyn arall.

A ninnau wedi’n hachredu i’r safon hon (neu’r safon gyfwerth flaenorol) ers 1988, mae’n dangos buddsoddiad tymor hir Beaufort mewn ansawdd. Mae’n sicrhau bod gennym system rheoli ansawdd ar waith sy’n ein helpu i ddarparu ymchwil o’r ansawdd gorau i gleientiaid ac ein bod yn canolbwyntio ar welliant parhaus.

Yn rhan o’r safon ansawdd, ceir canllawiau a gofynion yn ymwneud â’r ffordd y mae astudiaethau ymchwil i’r farchnad yn cael eu cynllunio, eu cynnal a’u goruchwylio, a’r ffordd y darperir adroddiadau arnynt i gleientiaid sy’n comisiynu prosiectau o’r fath. Mae’n annog cysondeb a thryloywder o ran y ffordd y mae arolygon yn cael eu cynnal, ac yn dangos y gall pobl ymddiried yn y canlyniadau ac ynom ni fel darparwr.

Un o ofynion ISO 20252 yw bod rhaid i uwch reolwyr fod yn gyfrifol am ansawdd y gwasanaeth i gleientiaid, a datblygiad a gwelliant parhaus y system. Rhai o’r elfennau eraill y mae’r safon hon yn ymdrin â nhw yw gofynion o ran cyfrinachedd ymchwil, dogfennaeth prosiect, hyfforddiant a defnyddio cwmnïau allanol.

ISO – ISO 20252 tackles market research with confidence