Mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau’r data o’r arolwg a wnaethom ar eu cyfer ymhlith atyniadau twristiaeth Cymru.
Gwnaed 22.2 miliwn o ymweliadau ag atyniadau yng Nghymru a gymerodd ran yn arolwg 2018. Roedd 61% o’r ymweliadau yn ymwneud ag atyniadau am ddim ac roedd 39% yn ymwneud ag atyniadau â thâl.
Roedd y 23 atyniad mwyaf poblogaidd yn rhoi cyfrif am bron i hanner yr holl ymweliadau a gofnodwyd yn 2018.
Cafodd amgueddfeydd ac orielau celf ac atyniadau bywyd gwyllt / gwarchodfeydd natur y gyfran uchaf o ymweliadau ar y cyfan (sef 25.4% a 22.2%) i gymharu â mathau o atyniadau eraill.
Roedd bron i hanner o’r ymwelwyr ag atyniadau a gymerodd ran yn ymwelwyr lleol, gyda phedwar ym mhob deg yn dod o weddill y DU a thuag un ym mhob deg o wledydd tramor.