09/06/23

Helpu Cymwysterau Cymru i archwilio hyder rhanddeiliaid

Rydym wrth ein bodd bod Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi ein canfyddiadau ar hyder rhanddeiliaid mewn cymwysterau nad ydynt yn raddau yng Nghymru. Yr astudiaeth ansoddol ar raddfa fawr hon yw’r ail o dair ton o waith ymchwil ar y pwnc hwn.

Mae’r sampl yn amrywiol iawn, gan gynnwys ysgolion uwchradd, colegau AB, darparwyr hyfforddiant, prifysgolion, undebau a chyrff dyfarnu ymhlith eraill.

Cynhyrchodd yr ymchwil adborth ar sbectrwm eang o feysydd yr oedd rhanddeiliaid yn eu cysylltu â chymwysterau a’r system gymwysterau yng Nghymru, gyda chyfranogwyr yn gallu siarad yn ddigymell am yr hyn a effeithiodd ar eu hyder.

Gallwch ddarllen mwy yma.