Rydym yn falch o ddweud ein bod wedi cael hydref calonogol iawn, ar ôl yr ansicrwydd a ddaeth yn sgil y cyfnod clo COVID-19. Mae Beaufort wedi derbyn dau ddarn sylweddol o waith, gan ail-gydio ar ein cychwyn cryf i’r flwyddyn cyn COVID.
Mae Cymwysterau Cymru wedi ein comisiynu i gynnal astudiaeth eang mewn hyder rhanddeiliaid gan ddefnyddio dulliau ansoddol. Disgwylir i’r prosiect bara pum mlynedd a bydd yn caniatáu i’r cleient archwilio hyder rhanddeiliaid mewn cymwysterau a’r system gymwysterau yng Nghymru, yn ogystal ag ymateb i bynciau o flaenoriaeth wrth iddynt godi.
Ail fuddugoliaeth allweddol yw astudiaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru a fydd yn canolbwyntio ar gydymffurfio i hunan-ynysu yng Nghymru. Rydym yn defnyddio cyfuniad o ddulliau meintiol ac ansoddol er mwyn archwilio’r thema. Darllenwch fwy yma.