30/06/22

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adroddiad Beaufort ar y flwyddyn ysgol yng Nghymru

Fel rhan o raglen casglu tystiolaeth ac ymgysylltu ehangach, comisiynodd Llywodraeth Cymru Beaufort Research, mewn partneriaeth â Cazbah, i gynnal ymchwil ac ymgysylltiad i archwilio agweddau tuag at strwythur y flwyddyn ysgol yng Nghymru.

Heddiw, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg ac Iaith, Jeremy Miles, ein hadroddiad a oedd yn cynnwys adborth meintiol ac ansoddol gan dros 13,000 o staff y gweithlu addysg, dysgwyr, rhieni, y cyhoedd, busnesau a rhanddeiliaid eraill. Darllenwch yr adroddiad yma.