18/12/23

Mae Beaufort yn cynnal ymrwymiad parhaus i broses recriwtio ansoddol, drwyadl

Yn Beaufort rydym yn credu’n gryf mewn cael y pethau sylfaenol yn gywir, ac mae hynny’n cynnwys pwy sy’n cymryd rhan yn ein grwpiau ffocws a’n cyfweliadau manwl un i un. Mae recriwtio ansoddol, trwyadl sy’n cael ei drefnu a’i reoli gennym ni yn darparu data o ansawdd uwch a mwy o gynrychiolaeth o safbwyntiau na rhannu gwahoddiadau agored i gymryd rhan mewn ymchwil yn unig. Mae rhagfarn hunan-ddetholiad yn golygu eich bod yn fwy tebygol o glywed gan y rhai sydd â barn gryfach ar y naill ben a’r llall i’r sbectrwm os mai’r cwbl rydych chi’n ei wneud yw gofyn i grwpiau/unigolion sydd â diddordeb gymryd rhan – ac rydych chi’n colli cael barn y mwyafrif tawel hollbwysig.

Credwn ei bod yn werth buddsoddi mewn recriwtio ansoddol, annibynnol ac rydym yn parhau i gefnogi ein timau recriwtio gyda’u hachrediad Cynllun Achrediad Recriwtio (RAS). Mae’r cynllun, a ddatblygwyd gan y Market Research Society (MRS) a’r Association for Qualitative Research (AQR), yn gwella recriwtio drwy gynllun hyfforddiant ac achrediad sy’n cydnabod gwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd recriwtwyr proffesiynol. I gael eu hachrediad, rhaid i’n recriwtiaid RAS basio asesiad trydydd parti sy’n profi eu gwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd yn y maes recriwtio ansoddol ac mae disgwyl iddynt gadw eu sgiliau a’u gwybodaeth yn gyfredol drwy asesiad parhaus er mwyn parhau i fod yn achrededig gan y RAS.

Rydym yn falch iawn fod ein hachrediad RAS wedi cael ei adnewyddu am flwyddyn arall. Yn aml mae’n golygu aseiniadau heriol i’n recriwtiaid, ond mae recriwtio trwyadl yn fudd allweddol i’n cleientiaid. Gallant barhau i fod yn hyderus y byddwn yn dod o hyd i’r cyfranogwyr cywir ar gyfer eu prosiectau ansoddol a gallant fod yn sicr nad pobl â’r safbwyntiau cryfaf ar y pwnc, neu’r cyfranogwyr arferol, sydd bob amser yn gwirfoddoli i gymryd rhan, yw’r unig rai sy’n creu’r grŵp ffocws/samplau cyfweliadau manwl.