20/07/20

Mae hyder y cyhoedd mewn cymwysterau heb radd wedi gwella dros y tair blynedd diwethaf, yn ôl ein hymchwil

Mae tair blynedd o ymchwil olrhain gan Beaufort Research ar ran Cymwysterau Cymru wedi dangos newid cadarnhaol yn gyffredinol yn hyder y cyhoedd mewn cymwysterau heb radd.

Mae hyder cyhoedd Cymru mewn cymwysterau UG/Safon Uwch yn gyffredinol uchel. Roedd y cyhoedd o’r farn bod y cymwysterau UG/Safon Uwch yn baratoad da ar gyfer astudio pellach a’u bod yn gymwysterau y gellid ymddiried ynddynt. Yn unol â blynyddoedd blaenorol, roedd rhywfaint o anghytundeb ynghylch pa mor dda roedd pobl yn deall UG/Safon Uwch (gyda thua un o bob pedwar o’r cyhoedd yn anghytuno â’r datganiad hwn), yn ogystal ag a oeddent yn baratoad da ar gyfer y byd gwaith ac yn datblygu ystod eang o sgiliau ar gyfer myfyrwyr

Roedd canfyddiadau’r cyhoedd o gymwysterau TGAU yn debyg ar y cyfan i rai UG/Safon Uwch, gyda’r ganmoliaeth gryfaf i gymwysterau TGAU am fod yn ‘baratoad da ar gyfer astudiaeth bellach’ ac am fod yn ‘gymhwyster y gellir ymddiried ynddo’. Darllenwch yr adroddiad cyfan yma.