28/03/22

Mae un o arolygon mwyaf y byd o bobl ifanc, Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022, ar y gweill!

Mae plant a phobl ifanc ledled y wlad yn cael eu gwahodd i rannu eu barn mewn arolwg cenedlaethol i helpu i lunio dyfodol chwaraeon yng Nghymru.

Agorodd Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022 (arolyg y mae Beaufort yn gweithio mewn partneriaeth â Snap Surveys a Chwaraeon Cymru i’w gyflwyno), dydd Llun 28 Mawrth ac mae wedi’i anelu at ddisgyblion 7 i 16 oed (blynyddoedd ysgol 3 i 11).

Nid yn unig y bydd yr Arolwg Chwaraeon Ysgol yn rhoi darlun o ba chwaraeon a gweithgareddau y mae plant yn cymryd rhan ynddynt ar hyn o bryd y tu mewn a’r tu allan i’r ysgol, a pha mor aml, bydd hefyd yn datgelu pa chwaraeon a gweithgareddau yr hoffent gael y cyfle i fwynhau mwy ohonynt.

Bydd yr arolwg hefyd yn darganfod mewnwelediad gwerthfawr o’r rhwystrau sy’n atal pobl ifanc rhag cymryd rhan mewn chwaraeon.

Dyma fydd y pumed tro ers 2011 i Chwaraeon Cymru gynnal yr arolwg o arferion gweithgareddau pobl ifanc. Casglodd yr arolwg diwethaf, yn 2018, farn dros 120,000 o blant o dros 1,000 o ysgolion.

Bydd pob ysgol yng Nghymru yn cael e-bost gyda’u dolen unigryw eu hunain i’r arolwg ar-lein. Bydd ganddynt tan ddydd Gwener 22 Gorffennaf i gymryd rhan. Bydd canlyniadau’r arolwg yn cael eu cyhoeddi yn yr hydref.

Cynghorir ysgolion hefyd i wirio’r hyn y mae angen iddynt ei wneud er mwyn bod yn gymwys ar gyfer eu Hadroddiad Arolwg Chwaraeon Ysgol unigol eu hunain. Yna gall yr ysgol ddefnyddio’r adroddiad hwn i deilwra eu gweithgareddau chwaraeon a lles i gyd-fynd yn well ag anghenion eu disgyblion.

Am ragor o wybodaeth gweler gwefan Chwaraeon Cymru: Arolwg Chwaraeon Ysgol | Chwaraeon Cymru