Wrth i gyfyngiadau Covid-19 gael eu lleddfu’n raddol, mae canfyddiadau o’n harolwg Omnibws Cymru ym Mehefin 2020 yn dangos bod bron i bedwar o bob deg o’r cyhoedd yng Nghymru (37%) yn rhagweld y gallant fynychu digwyddiadau chwaraeon neu gyngherddau cerdd o fewn y chwe mis nesaf. Mae llai – tua thri o bob deg (29%) – yn disgwyl gallu cymryd gwyliau tramor o fewn yr un cyfnod amser heb gwarantîn nac unrhyw gyfyngiadau ar deithio.
Mae pobl yn disgwyl y bydd yn cymryd mwy o amser i fywyd ddychwelyd i fod yn ‘normal’ gyda phawb yn byw fwy neu lai fel yr arferent, fodd bynnag – mae bron i ddwy ran o dair o boblogaeth Cymru (64%) yn credu y bydd hyn yn cymryd o leiaf 12 mis neu fwy. Mae hyn bron yn union yr un fath â disgwyliadau pobl o ran pryd y bydd brechlyn coronafirws yn barod – mae 65% yn disgwyl i hyn gymryd o leiaf 12 mis. I leiafrif, mae tua un o bob ugain o bobl yn teimlo na fydd bywyd byth yn dychwelyd i normal (6%) ac na fydd brechlyn byth ar gael (5%).
Mae’r cyhoedd yng Nghymru yn besimistaidd ynghylch yr amserlenni ar gyfer adferiad economaidd – nid yw’r mwyafrif (55%) yn disgwyl adferiad economaidd am o leiaf dwy flynedd, ac mae bron i un o bob ugain (4%) o’r farn na fydd yr economi byth yn gwella i ble yr oedd cyn Covid-19.
Ffigur 1: Gan feddwl nawr am yr argyfwng iechyd cyhoeddus presennol a’r dyfodol, pryd, os o gwbl, ydych chi’n meddwl y bydd y canlynol yn digwydd… (%)
Ffynhonnell: Arolwg Omnibws Beaufort Cymru* – 10-22 Mehefin 2020 (Maint sampl: 1,000).
*Cynhaliwyd cyfweliadau ar gyfer arolwg Mehefin 2020 ar-lein, yn lle wyneb yn wyneb fel arfer, oherwydd Covid-19.
Mae’r amser y rhagwelir dychwelyd i fywyd ‘normal’ yn amrywio’n sylweddol yn ôl oedran. Mae pobl ifanc 16 i 24 oed yn fwyaf tebygol o ddisgwyl i fywyd ddychwelyd i normal yn gymharol gyflym – mae 43% o’r rhai yn y grŵp oedran hwn yn disgwyl i fywyd ddychwelyd i ‘normal’ cyn pen chwe mis, tra bod llai nag un o bob pump (18%) o’r rhai sy’n 65 oed neu’n hŷn sy’n credu y bydd normalrwydd yn dychwelyd o fewn chwe mis. Mae dynion hefyd yn disgwyl dychwelyd yn gynharach i normalrwydd na menywod – mae 32% yn rhagweld y bydd hyn yn digwydd cyn pen chwe mis, o’i gymharu â dim ond 23% o fenywod.
Mae disgwyliadau ynghylch adferiad economaidd hefyd yn wahanol iawn yn ôl oedran, gyda phobl hŷn yn llawer mwy tebygol o ragweld cyfnod hir o adferiad. Mae 74% o’r rhai 65+ yn disgwyl y bydd adferiad economaidd yn cymryd dwy flynedd neu fwy, tra bod dim ond 32% o bobl ifanc 16 i 24 oed yn credu y bydd yn cymryd cymaint o amser i’r economi wella i’w lefel cyn-coronafirws.
I gael mwy o wybodaeth am ein Arolygon Omnibws Cymru cliciwch yma.