17/12/19

Chris Timmins

Mae Chris wedi gweithio fel prynwr a darparwr gwasanaethau ymchwil i’r farchnad ar draws y sector cyhoeddus a phreifat yn ystod y 25 mlynedd diwethaf.

Cychwynnodd ei yrfa yn Taylor Nelson Sofres (TNS), gan dreulio saith mlynedd yn yr adrannau Cwsmer a Chyfryngau. Mae ei brofiad ochr y cleientiaid yn cynnwys Rheolwr Ymchwil Brand Ewropeaidd yn Mars Confectionery a Phennaeth Ymchwil a Gwerthuso yn Chwaraeon Cymru, cyn iddo ymuno â Beaufort yn 2003.

Mae Chris yn arwain y tîm ansoddol yn Beaufort, ac yn gyfrifol am ddylunio ac adrodd ar ymchwil ad hoc a pharhaol. Mae ei waith yn cynnwys nifer o astudiaethau cenedlaethol sydd wedi archwilio newid cymdeithasol a deddfwriaethol yn ystod y ddau ddegawd diwethaf, gan gynnwys y gwaharddiad ar ysmygu, bagiau plastig untro a deddfwriaeth rhoi organau.

Y tu allan i’r gwaith, mae gan Chris ddiddordeb mewn bron i unrhyw agwedd o chwaraeon, ac mae’n rhedwr brwd. Yn ddiweddar, bu iddo gyflawni ei freuddwyd oes o gwblhau marathon (byth eto!), ond bellach mae’n well ganddo fwynhau Parkrun rheolaidd ar fore Sadwrn, sy’n llawer byrrach.