06/03/20

Pleidleisiau 16 oed: Dengys ymchwil Beaufort bod gan bobl ifanc yng Nghymru ddiddordeb mewn pleidleisio, er gwaethaf dealltwriaeth gyfyngedig o wleidyddiaeth Cymru

Mae’r ymchwil a gyhoeddwyd yn ddiweddar ymchwil ar gyfer Llywodraeth Cymru yn dangos bod gan bobl ifanc a brodorion tramor sy’n byw yng Nghymru fwy o ddiddordeb na rhai grwpiau o oedolion o ran gallu pleidleisio mewn etholiadau lleol – ond yn aml maent yn teimlo nad ydynt yn barod.

Cawsom ein comisiynu i gynnal darn eang o ymchwil ansoddol ar draws pedair cynulleidfa: pobl ifanc 14-17 oed, oedolion sydd wedi ymddieithrio’n wleidyddol, brodorion tramor sy’n byw yng Nghymru a rhanddeiliaid.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at rai o’r rhwystrau allweddol rhag pleidleisio o fewn etholiadau Cymru a helpu i newid neu ddatblygu cymunedau.  Materion amlwg oedd diffyg gwybodaeth, gweld gwleidyddiaeth yn ddryslyd ac annymunol, a dadrithiad cyffredinol â gwleidyddiaeth a gwleidyddion (mwy cyffredin ymhlith oedolion sydd wedi ymddieithrio nad ydynt yn pleidleisio ar hyn o bryd). Ni ddaeth y broses bleidleisio ei hun i’r amlwg fel rhwystr allweddol rhag pleidleisio yn etholiadau Cymru er bod brodorion tramor yn ansicr weithiau ynghylch hawliau pleidleisio ar gyfer gwahanol etholiadau yn y DU.

Canfuom hefyd fod cyfranogwyr yn poeni am y cymunedau lle’r oeddent yn byw ond yn aml nid oedd hi’n amlwg iddynt sut i godi mater na gwneud unrhyw newidiadau.

Roedd cael gwybod mwy, teimlo bod rhywun yn gwrando arnynt, a bod yn hyderus o’r gwahaniaeth y gall cyfranogi ei wneud, yn themâu allweddol o safbwynt awgrymiadau cyfranogwyr ar gyfer gwella ymgysylltiad. Mae gan ysgolion a’r sector addysg rôl bwysig i’w chwarae o ran mynd i’r afael â’r rhwystr sy’n ymwneud â diffyg gwybodaeth, drwy ymwreiddio addysg dinasyddiaeth ac addysgu gwleidyddol yng nghwricwlwm newydd Cymru. Gallai rhyngweithio wyneb yn wyneb yn y gymuned, a thrwy gyfryngau cymdeithasol/ar-lein hefyd, chwarae rhan wrth geisio cyrraedd ac ymgysylltu â phobl.

Cyflwynwyd uchafbwyntiau’r adroddiad yn nigwyddiad ‘Gostwng yr Oedran Pleidleisio yng Nghymru’ yn adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd ar y 3ydd o Fawrth. Roedd pobl ifanc a rhanddeiliaid yn cymryd rhan yn y digwyddiad, a noddwyd gan y Llywydd, ac roedd y digwyddiad yn cynnwys cyflwyniadau ymchwil, trafodaeth banel a gweithdai yn mynd i’r afael â’r heriau sy’n gysylltiedig â gweithredu’r system bleidleisio 16 oed yng Nghymru.  Fe’i trefnwyd fel cydweithrediad rhwng Prifysgol Huddersfield, Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru a Llywodraeth Cymru.

Rhoddodd Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol (a welir uchod), ei safbwynt ar yr adroddiad a thynnodd sylw at ei bwysigrwydd wrth nodi’r heriau a’r awgrymiadau ar gyfer symud ymlaen. Ysgogodd y digwyddiad a chanfyddiadau’r ymchwil ddiddordeb cyfryngau a thrafodaeth cyfryngau cymdeithasol.