Hysbysiad Preifatrwydd: Gwerthusiad o Seilwaith a Ariannwyd gan yr UE yng Nghymru: Arolwg Clwstwr o Fusnesau

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Hatch Regeneris i gynnal Gwerthusiad o Seilwaith a Ariennir gan yr UE yng Nghymru. Fel rhan o Raglenni Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd 2000-2006 a 2007-2013, cefnogodd Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) brosiectau seilwaith allweddol ledled Cymru.

Nod y gwerthusiad hwn yw ymchwilio i’r defnydd o’r seilwaith newydd, gwell a’r gwaith cynnal a chadw, er mwyn archwilio i ba raddau y mae’r seilwaith newydd, gwell o fewn tri rhanbarth Cymru (y Gogledd, y De-orllewin a’r Canolbarth, a’r De-ddwyrain) yn gweithio gyda’i gilydd, er budd y rhanbarth o ran yr economi leol, y preswylwyr lleol a busnesau lleol.

Fel rhan o’r gwerthusiad hwn bydd Hatch Regeneris yn casglu gwybodaeth drwy gyfweliadau dros y ffôn a gynhelir gan Beaufort Research gyda busnesau yn yr ardal ddaearyddol ble mae’r seilwaith wedi’i osod. Bydd Beaufort Research yn prynu rhifau ffôn busnesau gan ddarparwr cysylltiadau drwy ddeialu rhifau ar hap (Random Digit Dialing neu RDD).

Llywodraeth Cymru yw rheolydd data’r ymchwil. Fodd bynnag, bydd Beaufort Research a Hatch Regeneris yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir drwy’r cyfweliadau a’r arolygon, ac yn sicrhau bod y data amrwd yn ddienw, cyn eu rhannu â Llywodraeth Cymru.

Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gaiff ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae cymryd rhan yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a’ch profiadau’n bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.

Y person cyswllt ar gyfer yr ymchwil hon yn Hatch Regeneris yw Oliver Chapman

Cyfeiriad ebost: oliver.chapman@hatch.com

Rhif Ffôn: 07824 492 300

Hysbysiad Preifatrwydd

Pa ddata personol a gedwir gennym ac o ble y cawn y wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddyfais adnabod’.

Bydd Hatch Regeneris yn casglu gwybodaeth drwy gyfweliadau dros y ffôn a gynhelir gan Beaufort Research gyda busnesau yn yr ardal ddaearyddol ble mae’r seilwaith wedi’i osod. Bydd Beaufort Research a Hatch Regeneris yn prynu rhifau ffôn busnesau gan ddarparwr cysylltiadau drwy ddeialu rhifau ar hap (Random Digit Dialing neu RDD.

Ni fydd angen i ni weld unrhyw ddata personol eraill ar gyfer y cyfweliadau hyn ac ni fyddwn yn casglu nac yn cofnodi enwau, cyfeiriadau e-bost ac ati.

Mae cymryd rhan yn wirfoddol ac os nad ydych yn dymuno gwneud hynny, rhowch wybod i ni gan ddefnyddio’r rhif ffôn a ddarperir, a bydd eich manylion yn cael eu dileu.

Os byddwch yn dewis darparu data personol ychwanegol fel rhan o’r ymchwil, byddwn yn ceisio sicrhau na fydd modd eich adnabod o’r ymatebion a roddwch, na chysylltu eich hunaniaeth â’r ymatebion. Os byddwch yn gwneud ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol sy’n gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig ac yna’n dileu’r wybodaeth o ddata’r ymchwil.

Beth yw’r sail gyfreithlon ar gyfer defnyddio eich data?

Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hon yn bwysig i Lywodraeth Cymru er mwyn casglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir gweithredu arni ynglŷn â’i gallu i gyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth.   Bydd y wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon, er enghraifft, yn cael ei defnyddio i archwilio a yw’r seilwaith yn cael ei ddefnyddio yn unol â’r math o ddefnydd a maint y defnydd a ragwelwyd yn wreiddiol (e.e. trafnidiaeth: busnes / cymudo o gymharu â defnydd personol / hamdden, campysau arloesi: busnesau o gymharu â staff neu fyfyrwyr prifysgol) Bydd hefyd yn nodi barn defnyddwyr am ansawdd y seilwaith newydd ac yn archwilio i ba raddau y mae’r gweithrediadau’n cyd-fynd â blaenoriaethau polisi a strategol allweddol Llywodraeth Cymru;

Pa mor ddiogel yw unrhyw ddata personol a gyflwynir?

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Beaufort Research a Hatch Regeneris bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy’n gweithio ar y prosiect hwn fydd yn gallu cael mynediad at y data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd Hatch Regeneris a Beaufort Research yn defnyddio’r data hyn. Mae gan Hatch Regeneris a Beaufort Research ardystiad dilys Cyber Essentials.

Mae gan Hatch Regeneris weithdrefnau i ddelio ag unrhyw achosion honedig o fynediad diawdurdod at ddata. Os bydd achos honedig, bydd Hatch Regeneris yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am hyn, a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys pan fydd gofyniad cyfreithiol i ni wneud hynny.

Bydd yr holl ddata a gesglir drwy’r ymchwil hon yn cael eu cyflwyno mewn fformat dienw. Ni fydd yn cynnwys eich manylion cyswllt a bydd unrhyw wybodaeth adnabyddadwy mewn atebion penagored yn cael ei dileu. Bydd Hatch Regeneris yn defnyddio’r wybodaeth a gesglir i gynhyrchu adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.

Am ba hyd y byddwn yn cadw unrhyw ddata personol a gyflwynir?

Bydd Hatch Regeneris a Beaufort Research yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol yn cael eu dileu gan Hatch Regeneris a Beaufort dri mis ar ôl diwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt. Bydd Hatch Regeneris yn darparu fersiwn ddienw o’r data i Lywodraeth Cymru na fydd yn cynnwys gwybodaeth a allai ddatgelu pwy ydych chi.

Hawliau unigol

O dan GDPR, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol rydych chi’n ei darparu fel rhan o’r gwerthusiad hwn, mae gennych yr hawl:

  • I gael gweld copi o’ch data eich hun;
  • I ni gywiro gwallau yn y data hynny;
  • I wrthwynebu prosesu’r data neu gyfyngu ar hynny (mewn amgylchiadau penodol);
  • I ofyn i’ch data gael eu ‘dileu’ (mewn amgylchiadau penodol); ac
  • I gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.

Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.org.uk.

Gwybodaeth Bellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill ynglŷn â sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o’r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu’n dymuno arfer eich hawliau gan ddefnyddio’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:

Enw: Charlotte Guinee

Cyfeiriad e-bost: charlotte.guinee@llyw.cymru

Rhif ffôn: 0300 025 0734

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, E-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru.