02/12/21

Recruiter Accreditation Scheme – dod o hyd i’r cyfranogwyr iawn ar gyfer eich prosiect ansoddol

Rydym yn falch o gael dweud bod Beaufort nawr yn achrededig gan y Recruiter Accreditation Scheme (RAS) a ddatblygwyd gan y Gymdeithas Ymchwil i’r Farchnad (MRS) a’r Association for Qualitative Research(AQR). Mae cyrraedd achrediad yn golygu y gall ein cleientiaid gael hyd yn oed mwy o hyder yn ansawdd ein gwaith ac yn sgiliau’n tîm maes i ddarganfod y cyfranogwyr cywir ar gyfer eich prosiect ansoddol. Mae’n gwella’r broses o recriwtio drwy gynllun hyfforddiant ac achrediad sy’n cydnabod gwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd ein recriwtiaid proffesiynol.

Pasiodd ein recriwtiaid RAS asesiad trydydd parti sy’n profi eu gwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd o fewn y maes recriwtio ansoddol ac mae disgwyl iddynt gadw eu sgiliau a’u gwybodaeth yn gyfredol drwy asesiad parhaus er mwyn parhau i fod yn achrededig gan y RAS.