04/11/24

Sut y gwnaeth dyddiaduron ein helpu i ymchwilio’n fanylach i arferion fepio

Credir bod dyddiaduron wedi bodoli ar ryw ffurf ers pan oedd pyramidiau’r Aifft yn cael eu hadeiladu gyntaf. Ystyrir mai dyddiadur Merer yw un o’r enghreifftiau cynharaf sy’n hysbys, gan fod yn ffynhonnell hanfodol ar gyfer deall cymdeithas, trefniadau llywodraethu a phensaernïaeth henebion yn Aifft yr henfyd.

Ymlaen â ni 4,500 o flynyddoedd ac mae dyddiaduron cyfranogwyr wedi hen ennill eu plwyf fel un o’r prif offer wrth gynnal ymchwil ansoddol. Maent yn dal i gyflawni’r addewid hyd yn oed mewn fformat syml, cost-effeithiol. Gallant ddarparu mewnwelediad manwl, sy’n gyforiog o gynnwys ac sy’n fwy cywir na grwpiau ffocws ‘safonol’ a chyfweliadau yn unig – a datgelu mewnwelediad newydd.

Gall yr holl ddata ar ymddygiadau, canfyddiadau, profiadau a thestunau mwy sensitif gael ei wella gan ddefnyddio dyddiaduron gan bod cyfranogwyr yn ymateb yn eu hamgylcheddau naturiol, sy’n arwain at adborth mwy ystyriol a dilys. Ar ben hynny, gall dyddiaduron sydd ar ffurf fideo a ffotograffau ddarparu data hynod gyfoethog ar emosiwn, cyd-destun ac amgylchoedd.

Un o fanteision allweddol dyddiaduron yw eu gallu i leihau tuedd atgofion, gan annog cyfranogwyr i ddogfennu eu hymddygiadau a’u meddyliau yn nes at yr adeg y maent yn digwydd, er enghraifft pan fyddant yn mynd o gwmpas y lle neu’n teithio (ar gyfer ymchwil i’r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus). Mae hyn nid yn unig yn darparu data mwy cywir ond mae hefyd yn galluogi cyfranogwyr i hunanfyfyrio.

Mae dyddiaduron hefyd yn gallu peri i unigolion rannu mewnwelediadau y byddent fel arall yn eu cadw’n ôl neu’n eu hanwybyddu o bosibl mewn lleoliad grŵp neu gyfweliad wyneb-yn-wyneb, gyda’r budd ychwanegol eu bod yn dileu dylanwad cyfranogwyr eraill.

Mae union natur cwblhau dyddiadur, hyd yn oed dros ychydig ddyddiau, yn gallu cynyddu ymgysylltiad cyfranogwyr â’r broses ymchwil.

Rydym yn ymwybodol, wrth gwrs, bod pethau y mae angen i ni eu cael yn iawn wrth ddylunio tasg o’r fath. Peidio â rhoi gormod o faich ar y cyfranogwr, ei gadw’n ddiddorol, a’i wneud yn werth chweil iddynt yn ariannol. Hefyd, fel gyda’r rhan fwyaf o dechnegau ymchwil, mae angen cadw Effaith Hawthorne mewn cof – gall ymwybyddiaeth cyfranogwyr bod eraill yn arsylwi arnynt neu’n syml eu bod yn cymryd rhan mewn astudiaeth ddylanwadu ar yr hyn y maent yn ei wneud a’r hyn y maent yn dewis ei rannu. Ac yn naturiol bydd achlysuron lle mae cyfranogwr yn methu ag ymgysylltu’n llawn neu’n mynnu rhoi’r atebion byrraf posibl.

Ar astudiaeth ddiweddar ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru ymhlith pobl yr oedd arnynt eisiau rhoi’r gorau i fepio, roedd dyddiaduron cyfranogwyr yn offeryn delfrydol i ni a allai ategu grwpiau ffocws ar-lein a sicrhau ein bod yn cyflawni set lawn iawn o amcanion. Fe ddewisom ni blatfform ar-lein pwrpasol a oedd yn syml iawn i gyfranogwyr ei ddefnyddio (cawsant gynnig cadw dyddiaduron ar bapur hefyd), yn addas ar gyfer cofnodi am bynciau’n ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg), ac yn gost-effeithiol o ystyried y gyllideb gyfyngedig.

Fe wnaeth y dechneg hefyd ryddhau amser gwerthfawr mewn grwpiau ffocws trwy roi sylw llawn i rai pynciau ymlaen llaw gan gynnwys y rhai nad oeddent yn addas ar gyfer trafodaeth grŵp.

Fe wnaethom brofi lefelau ymgysylltu gwych er bod angen rhywfaint o hwb ysgafn gan ein tîm Gwaith Maes amyneddgar i annog pawb i gyfranogi.

Roedd y mewnwelediadau’n cynnwys pa mor aml yr oedd rhai’n fepio bob dydd, ble’r oeddent yn fepio (gan gynnwys yn y gwely, yn y bath, ar y ffordd i ac o’r tŷ bach yn y nos!) a pha mor anhygoel o gyfleus oedd hi i wneud hynny. Yn wir, roedd rhai’n teimlo’u bod yn fepio mwy nag oeddent wedi ysmygu tybaco. Cafwyd achosion hefyd lle’r oedd cyfranogwyr yn myfyrio ynghylch y cofnodion yn eu dyddiaduron – gan gynnwys bod eisiau bod yn fodel rôl gwell i’w plant – fel ffordd o adnewyddu eu cymhellion i roi’r gorau iddi.