11/03/22

Ymchwil yn datgelu beth yn union mae’r Saeson yn ei feddwl o Gymru a’i hamgylchedd busnes

I ddathlu Wythnos Cymru yn Llundain 2022, mae’r asiantaeth gyfathrebu flaenllaw o Gymru, Golley Slater, mewn partneriaeth â Beaufort Research, wedi datgelu beth yn union mae’r Saeson yn ei feddwl am Gymru a’r Cymry – gyda rhai canlyniadau fydd yn peri syndod.

Comisiynwyd yr ymchwil gan Golley Slater i gasglu safbwyntiau er mwyn cael gwell dealltwriaeth o sut mae’r Saeson yn ystyried Cymru, ei diwydiannau, a’r Cymry eu hunain.

Mae’r gystadleuaeth ar ddwy ochr y bont yn dra hysbys – yn enwedig pan mae’n dod i rygbi – ond mae ymchwil yn dangos bod gan y Saeson ddirnadaeth gadarnhaol pan mae’n dod i Gymru a’i nodweddion.

Ystyriwyd Cymru yn groesawgar (55%) a brwd (42%) gan y Saeson o’i gymharu â’r 38% a 29%, yn y drefn honno, a adnabu’r nodweddion hynny ymysg eu cenedl eu hunain.

Pan mae’n dod i wladgarwch, mae’r Saeson yn fwy tebygol o gydnabod y Cymry’n wladgarol gyda’u hanner (50%) yn disgrifio Cymru’n wladgarol o’i gymharu â 45% sy’n meddwl hynny am Loegr.  

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ond nid yw’n gadarnhaol i gyd, gydag ymchwil yn dangos bod yna farn sydd wedi dyddio am Gymru gan y rhai sydd ochr arall i’r bont. Dim ond un mewn 10 o bobl sy’n ystyried Cymru’n arloesol, a dim ond 14% sy’n teimlo bod y wlad a’r bobl yn oddefgar.

Yn y cyfamser, mae un o bob tri yn credu bod cysylltiadau trafnidiaeth Cymru yn wael ac mae un o bob pedwar yn credu bod gan Gymru gyswllt gwael â’r we.

Siarad busnes

Pan mae’n dod i dirwedd ddiwydiannol Cymru, mae ymchwil yn dangos bod 15% o bobl dal i gysylltu Cymru â’r diwydiant glo a dur. Mae hyn yn arbennig o wir am bobl o Lundain, lle mae un o bob pump o bobl yn meddwl ei fod dal i fod yn ddiwydiant allweddol.

Yn y cyfamser, twristiaeth (62%), amaethyddiaeth (51%), bwyd a diod (25%) a’r sector cyhoeddus (25%) oedd y prif ddiwydiannau a nodwyd fel rhai oedd â chysylltiad â Chymru yn ôl y Saeson.

Tra bod twristiaeth, bwyd a diod a’r sector cyhoeddus yn brif ddiwydiannau yng Nghymru, mae’n ymddangos bod y Saeson yn goramcangyfrif dibyniaeth Cymru ar amaethyddiaeth, sydd yn ddim ond tua 1% o’n holl ddiwydiannau.

Mae’r Saeson hefyd yn dibrisio sgiliau’r Cymry fel gweithgynhyrchwyr, sy’n cyfrif am 16% o’n holl ddiwydiannau.

O ran gwneud busnes yng Nghymru, mae’r Saeson yn eistedd ar y ffens, gyda 50% yn credu ei fod yn le da i wneud busnes. Mae hyn yn gostwng i 42% ymysg pobl o Lundain.

Y bywyd da

Er gwaetha’r ffaith fod y Saeson yn teimlo eu bod yn gwybod mwy am Yr Alban (51%) o’i gymharu â Chymru (42%), mae gan y Saeson deimladau cadarnhaol tuag at Gymru a’i phobl.

Dyma beth oedd eu barn:

  • Mae un o bob dau o Saeson yn credu bod gan Gymru arweinyddiaeth wleidyddol gref.
  • Mae 72% o Saeson yn credu bod Cymru yn gymdeithas deg.
  • Mae bron i naw o bob deg (86%) o Saeson yn credu bod gan Gymru synnwyr cryf o gymuned.
  • Mae 81% o’r Saeson yn credu ei bod hi’n bwysig bod Cymru yn aros yn yr undeb.
  • Mae 71% yn credu bod Cymru yn cynnig ansawdd bywyd gwych

Efallai nad yw’n syndod felly bod gan 92% o aelwydydd yn Lloegr sydd â phlant ddiddordeb mewn ymweld â Chymru, a bod 79% o aelwydydd heb blant yn teimlo’r un fath.

Dywedodd Angharad Thomas, Pennaeth Strategaeth a Dealltwriaethau yn Golley Slater:

Mae’n amlwg bod ein brwdfrydedd a’n gwladgarwch i’w weld yn glir gan ein cystadleuwyr rygbi, a does dim dwywaith y byddant yn teimlo’i holl rym yn y gêm yn Twickenham y penwythnos hwn.

“Mae ein hymchwil wedi datgelu rhai ystadegau diddorol iawn ac rydym wedi cael ein plesio’n arw gan rai o’r canfyddiadau cadarnhaol sydd gan y Saeson am Gymru a’r Cymry.

“Tra bod llawer o’r canlyniadau wedi cadarnhau hoffter y Saeson o Gymru, mae yna dystiolaeth bod peth barn wedi dyddio a bod yna stereoteipio o hyd.

“Rydym wedi mwynhau datgelu’r trysorau hyn a byddwn yn edrych i weld sut allwn ddefnyddio’r safbwyntiau hyn i fod o gymorth i fusnesau, brandiau a sefydliadau sy’n chwilio am gyfleoedd ar ddwy ochr y ffin.”

 

Cynhaliodd Angharad Thomas a Fiona McAllister, Rheolwr Gyfarwyddwr Beaufort Research, weminar ar lein rhad ac am ddim ar gyfer Wythnos Cymru 2022 i ddadansoddi canlyniadau’r ymchwil a beth mae’n ei olygu i fusnesau yng Nghymru.