09/07/21

Yn cefnogi datblygu adnoddau arloesedd newydd ar gyfer Gwyddorau Bywyd

Braf gweld ein hymchwil yn bwydo i mewn i adnodd newydd Hwb Gwyddorau Bywyd CymruCyflawni Arloesedd – sy’n ceisio arwain a rhoi gwybodaeth i’r rhai sy’n gweithio ar draws arloesedd mewn diwydiant, iechyd a gofal cymdeithasol.

O’n hymchwil ansoddol a meintiol, gwelwyd, ymysg pethau eraill, bod 97% o’r rhanddeiliaid iechyd a gofal cymdeithasol a ymatebodd i’r arolwg, yn ystyried arloesedd fel rhywbeth eithriadol o bwysig, ynghyd â 91% o ymatebwyr o ddiwydiant. Fodd bynnag, daethom ar draws rai rhwystrau i arloesedd hefyd a bydd yr adnodd newydd hwn yn ceisio goresgyn y rheiny. Dysgwch ragor am ganlyniadau ein hymchwil yma, a’r adnodd pwysig a newydd hwn ar gyfer y sector.