Dengys ein harolwg diweddaraf ar gyfer Cyfryngau Cymru Cyf, ar y dudalen flaen ac ym mhrif golofn y Western Mail rhifyn 28 Chwefror, fod bron i hanner oedolion Cymru (48%) o blaid cynyddu nifer yr Aelodau o’r Senedd i oddeutu 90. Roedd 30% yn gwrthwynebu’r syniad a doedd gan 21% ddim barn ynglŷn â’r mater.
Rhwng 17 Ionawr a 6 Chwefror cafodd sampl cynrychiadol o 1,000 o oedolion 16+ oed ledled Cymru ei gyfweld ar-lein gan Beaufort mewn arolwg Omnibws Cymru. Gofynnwyd y cwestiwn canlynol:
‘Mae’r Senedd yn ystyried cynyddu nifer yr Aelodau etholedig o’r Senedd. Yn ôl panel o arbenigwyr mae’r nifer presennol, sef 60, yn rhy isel i gynrychioli pobl Cymru, dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif a delio â’r llwyth gwaith cynyddol yn effeithiol. O ganlyniad, argymhellir y dylid cynyddu’r nifer i oddeutu 90 o aelodau. Bydd hyn yn arwain at gostau ychwanegol. Mae gan Senedd yr Alban 129 o aelodau etholedig tra mae gan Gynulliad Gogledd Iwerddon 90 o aelodau etholedig. I ba raddau y cytunwch neu yr anghytunwch y dylid cynyddu nifer yr Aelodau o’r Senedd i oddeutu 90?’
Roedd pobl ifanc yn llawer mwy tebygol o gefnogi’r syniad na phobl hŷn – roedd 61% o bobl 16-34 oed yn dymuno gweld nifer yr Aelodau o’r Senedd yn cynyddu, o’i gymharu â dim ond 34% o bobl 55+ oed. Roedd siaradwyr Cymraeg yn llawer mwy tebygol o gefnogi cynnydd yn nifer yr Aelodau o’r Senedd na phobl ddi-Gymraeg, gyda 65% o siaradwyr Cymraeg rhugl a 61% o siaradwyr Cymraeg heb fod yn rhugl yn cytuno â’r syniad, o gymharu â 41% o bobl ddi-Gymraeg.
Mwy o sylw gan ITV.