Cadw bys ar pwls hyder rhanddeiliaid mewn cymwysterau nad ydynt yn radd yng Nghymru

Dros nifer o flynyddoedd, rydym wedi helpu Cymwysterau Cymru i ddeall yn well yr hyder sydd gan randdeiliaid a’r cyhoedd mewn cymwysterau nad ydynt yn radd, a’r system yng Nghymru.

Prif amcanion a chenhadaeth y rheoleiddiwr yw sicrhau bod cymwysterau, a’r system gymwysterau, yn effeithiol ar gyfer diwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru; a hybu hyder y cyhoedd mewn cymwysterau, a’r system gymwysterau yng Nghymru.

Er mwyn cefnogi Cymwysterau Cymru gyda’r amcanion hyn, mae Beaufort wedi darparu gwasanaethau amrywiol ar draws ystod o bynciau. Roedd un astudiaeth allweddol yn cynnwys pedair ton o ymchwil ansoddol ymhlith cymysgedd eang o randdeiliaid. Roedd yn edrych ar ba mor hyderus ydyn nhw mewn cymwysterau nad ydynt yn radd, a’r system yng Nghymru ac, yn hollbwysig, y ffactorau sy’n gyrru’r lefelau hyn o hyder.

Mae rhai tonnau ymchwil wedi cynnwys sgyrsiau gyda dros 60 o sefydliadau rhanddeiliaid sy’n cwmpasu ysgolion uwchradd, darparwyr AB ac AU, darparwyr hyfforddiant / dysgu seiliedig ar waith, cyrff dyfarnu, undebau, cyrff cyhoeddus, Consortia Addysg Rhanbarthol, Llywodraeth Cymru, a sefydliadau cynrychioliadol. Gwnaethom gyflwyno adroddiad cynhwysfawr  ar gyfer pob ton.

Roedd yr astudiaeth hon yn gofyn am alluoedd mewnol helaeth i recriwtio rhanddeiliaid, gan sicrhau ar yr un pryd ein bod yn cynrychioli ein cleient yn broffesiynol ymhlith ei uwch randdeiliaid.

Roedd y gwaith gyda rhanddeiliaid hefyd yn cynnwys archwilio safbwyntiau ar AI ac asesu digidol; a chydraddoldeb, tegwch a chynhwysiant mewn cymwysterau nad ydynt yn radd, a’r system gymwysterau yng Nghymru. Yn ychwanegol at yr elfen hon, roedd sampl o rieni er mwyn darparu persbectif ehangach ar y pwnc.

Dros y saith mlynedd diwethaf, rydym hefyd wedi bod yn helpu Cymwysterau Cymru i fonitro barn y cyhoedd a’u hyder mewn cymwysterau nad ydynt yn radd yng Nghymru. Mae ein harolwg Omnibws Cymru wedi rhoi cipolwg amserol ar ganfyddiadau ymhlith sampl gynrychioliadol o 1,000 o oedolion o Gymru. Mae’r canfyddiadau diweddaraf yn dangos bod hyder y cyhoedd mewn system gymwysterau nad yw’n radd yng Nghymru yn parhau’n uchel.

Dychwelyd i astudiaethau achos