Mae Arolwg Omnibws Cymru yn cynrychioli’r unig arolwg Omnibws wyneb-yn-wyneb ar gyfer Cyhoedd Cymru. Mae’r set unigryw o fanteision sy’n gysylltiedig â’r dull wyneb yn wyneb hwn wedi eu hamlinellu isod:
– Hyder yn y ffaith bod y rhai sy’n cael eu cyfweld yn gynrychiolaeth cywir o boblogaeth Cymru. Mae cyfuniad o sampl lleoliad ar hap a rheolyddion cwota ar oed, rhyw, rhanbarth a graddfa gymdeithasol yn golygu ei fod yn darparu sampl cynrychiadol heb yr angen am ‘bwysoli data’ helaeth.
– Gellir dangos mesuriadau adalw cywir ar gyfer hysbysebu neu agweddau gweledol eraill fel amrywiaeth o ddeunydd ysgogol, megis hysbysebion Teledu/Radio/Ar-lein, i ymatebwyr yn eu ffurf wreiddiol drwy ein meddalwedd casglu data CAPI (Cyfweld Personol Gyda Chymorth Cyfrifiadur).
– Bydd yn cael ei weithredu gan gyfwelwyr fydd yn adeiladu perthynas gydag ymatebwyr ac yn casglu data o ansawdd uchel ac adborth mwy manwl drwy holi’n fanwl ar yr holl gwestiynau agored.
Nodweddion allweddol:
– Mae’r arolwg yn seiliedig ar sampl cwota cynrychiadol, yn cynnwys lleiafswm o 1,000 oedolyn sy’n 16+ oed sy’n byw yng Nghymru.
– Cynhelir yr arolygon pedwar gwaith y flwyddyn – ym mis Mawrth, Mehefin, Medi a mis Tachwedd – ac mae sampl newydd yn cael ei gynhyrchu bob tro.
– Mae cyfweliadau’n cael eu hymestyn ar draws 68 lleoliad ar wahân ar draws Cymru.
– Cynhelir yr holl gyfweliadau wyneb-yn-wyneb yng nghartrefi’r ymatebwyr gan ddefnyddio CAPI (Cyfweld Personol Gyda Chymorth Cyfrifiadur).