Tywys meddwl cleient wrth ddewis ymgyrch

 

 

 

 

 

Dengys cymariaethau rhyngwladol bod goroesi canser yr ysgyfaint yn y DU yn wael, gyda Chymru y gwaethaf yn y DU. Mae Cymru yn ymroddedig i wella canlyniadau cleifion a dderbynia ddiagnosis o ganser yr ysgyfaint. Elfen allweddol yw sicrhau bod cleifion yn derbyn diagnosis yn gynharach. Mae gweithgarwch i gynyddu ymwybyddiaeth o symptomau canser yr ysgyfaint wedi digwydd yn barod yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Cymru. Mae Cymru felly mewn lle da i ddysgu oddi wrth ac adeiladu ar y gweithgarwch hwn. Gall y wybodaeth hon hysbysu penderfyniadau ynghylch defnyddio neu adeiladu ar ddeunyddiau sy’n bodoli, lle bo’n bosibl i Gymru.

Roedd angen i dair ymgyrch wahanol (gan gynnwys teledu, radio a phrint) gael eu profi o ran neges, perthnasedd, effaith a galwad i weithredu. Yn ychwanegol, roedd yn bwysig nodi lle byddai angen gwelliannau efallai i wneud yr ymgyrch mor berthnasol â phosibl i bobl yng Nghymru. Bu i ni ddefnyddio grwpiau ffocws ledled Cymru (gan gynnwys trwy gyfrwng y Gymraeg) i edrych ar ymatebion i’r ymgyrchoedd. Daliom hefyd adborth ymddygiadol gyda chyn-dasg cyfranogwyr.

Tynnodd ein canlyniadau sylw clir i’r grŵp cleientiaid a rhanddeiliaid ynghylch pa elfennau o ba ymgyrchoedd oedd yn addas ar gyfer bwrw ymlaen yng Nghymru heb golli cysondeb ac eglurdeb negeseuon. Roedd angen nifer o addasiadau i sicrhau bod yr ymgyrch wedi’i theilwra i Gymru. Mae’r cleient yn awr yn gweithio’n agos â rhanddeiliaid eraill yng Nghymru i fwrw ymlaen â’r mewnwelediadau hyn. Y bwriad yw rhedeg ymgyrch canser yr ysgyfaint yn y cyfryngau yn 2016.

 

Dychwelyd i astudiaethau achos