500 o gyfweliadau gydag oedolion (16 oed neu hŷn) sy’n byw yng Nghymru
Mae’n hollol hyblyg – mae’n rhedeg pryd bynnag y dymunwch
Holi sampl cynrychioliadol o 500 o oedolion yng Nghymru ar-lein
Canlyniadau ar gael o fewn 10 diwrnod gwaith o gytuno ar gwestiynau
Rydym yn cymryd yr holl drafferth i ffwrdd – Beaufort sy’n rheoli’r gwaith o osod arolygon / dylunio holiaduron / sgriptio
Rydych yn talu cost sefydlog fesul cwestiwn fel y gallwch ofyn cymaint neu gyn lleied o gwestiynau ag sydd eu hangen arnoch*
Mae’n gwbl ddwyieithog – gall cyfranogwyr gymryd rhan yn y Gymraeg neu’r Saesneg
Mae allbynnau’n cynnwys siartiau PowerPoint ar gyfer eich cwestiynau, ynghyd â thablau data
Gellir ychwanegu ystod o allbynnau ychwanegol am dâl ychwanegol bychan
Data wedi’i ddadansoddi yn ôl rhanbarth, oedran, rhyw, gradd economaidd-gymdeithasol a siaradwyr Cymraeg.
* Isafswm tâl o 5 cwestiwn caeedig (£1,975 heb TAW)
Oes gennych chi her ymchwil neu angen mewnwelediad i lunio'ch strategaeth? Gadewch i ni siarad! Yn Beaufort Research, rydym yn ffynnu ar droi eich cwestiynau yn atebion ystyrlon sy'n ysgogi gweithredu.