Amdanom ni

Rydym yn cynnig gwasanaeth ymchwil ansoddol a meintiol i gleientiaid gan ddefnyddio amrywiaeth o fethodoleg â’r technegau casglu data diweddaraf. Gallwn ddarparu gwasanaeth ymchwil llawn, o ddylunio prosiect i adrodd, neu wasanaeth maes a thablu. Byddwn yn dylunio datrysiad unigryw sydd fwyaf addas ar gyfer eich anghenion.

Yn dibynnu ar eich gofynion, efallai mai ein harolygon Omnibws fyddai’r opsiwn mwyaf cost-effeithiol i chi.

Darganfyddwch fwy

Rydym yn darparu gwasanaeth ymchwil di-dor yn y Gymraeg ac yn ddwyieithog i gleientiaid pan fo angen, gyda siaradwyr Cymraeg rhugl yn ein tîm gweithredol.

Mae Beaufort wedi ymrwymo i ddarparu ymchwil o ansawdd uchel, ac mae gan ein tîm y wybodaeth, y brwdfrydedd a’r profiad i’ch darparu chi gyda datrysiadau ymchwil cost-effeithiol. Rydym yn gyfeillgar, agos-atoch ac mae gweithio â ni’n rhwydd!

Mae Beaufort yn achrededig gan y Recruiter Accreditation Scheme (RAS) a ddatblygwyd gan y Gymdeithas Ymchwil i’r Farchnad (MRS) a’r Association for Qualitative Research (AQR).

Mae cyrraedd achrediad yn golygu y gallwch chi gael hyd yn oed mwy o hyder yn ansawdd ein gwaith ac yn sgiliau’n tîm maes i ddarganfod y cyfranogwyr cywir ar gyfer eich prosiect ansoddol. Mae’n gwella’r broses o recriwtio drwy gynllun hyfforddiant ac achrediad sy’n cydnabod gwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd ein recriwtiaid proffesiynol.

Pasiodd ein recriwtiaid RAS asesiad trydydd parti sy’n profi eu gwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd o fewn y maes recriwtio ansoddol ac mae disgwyl iddynt gadw eu sgiliau a’u gwybodaeth yn gyfredol drwy asesiad parhaus er mwyn parhau i fod yn achrededig gan y RAS.

Ein tîm

Mae tîm gweithredol Beaufort yn cynnwys cyfuniad o ymchwilwyr sydd wedi gweithio yn y sectorau cyhoeddus a phreifat ac ar draws yr asiantaeth a sefydliadau ochr cleientiaid.

Maent yn cael eu cefnogi gan staff cefnogol a thechnegol medrus, ac yn gallu tynnu ar dîm maes helaeth.

Fiona McAllister
Rheolwr Gyfarwyddwr
Chris Timmins
Cyfarwyddwr
Owen Knight
Cyfarwyddwr Cyswllt
Adam Blunt
Cyfarwyddwr Cyswllt
Catrin Davies
Uwch Weithredwr Ymchwil
Mary Geldart
Rheolwr Gweithrediadau
Shaazna Ossen
Rheolwr Gweithrediadau (cyfnod mamolaeth)
Jane Bullock
Swyddog Gweithredol Gweithrediadau
Sahil Mulani
Dadansoddwr Data
Cynthia Mason
Rheolwr Hyfforddiant ac Ansawdd

Gadewch i ni siarad

Oes gennych chi her ymchwil neu angen mewnwelediad i lunio'ch strategaeth? Gadewch i ni siarad! Yn Beaufort Research, rydym yn ffynnu ar droi eich cwestiynau yn atebion ystyrlon sy'n ysgogi gweithredu.

Gadewch i ni siarad
Trwy glicio “Derbyn”, rydych yn cytuno i storio cwcis ar eich dyfais i wella llywio'r safle, dadansoddi defnydd o'r safle, a chynorthwyo ein hymdrechion marchnata. Gweler ein Polisi Preifatrwydd am ragor o wybodaeth.