Astudiaethau achos

Dysgwch sut mae cleientiaid wedi elwa o weithio mewn
partneriaeth â ni.

Cadw bys ar y pwls o hyder rhanddeiliaid mewn cymwysterau nad ydynt yn rhai gradd yng Nghymru

Dros nifer o flynyddoedd, rydym wedi helpu Cymwysterau Cymru i ddeall yn well yr hyder sydd gan randdeiliaid a'r cyhoedd yn gyffredinol mewn cymwysterau nad ydynt yn raddau a'r system yng Nghymru...

Darllenwch fwy >
Darparu mewnwelediad i anghenion pobl ifanc 16-24 oed yng Nghymru o ran addysg, hyfforddiant, a gwaith

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn dylanwadu ar ei phenderfyniadau yng nghyswllt polisïau a gweithgareddau sy’n eu heffeithio.

Mae’r Warant i Bobl Ifanc yn ymrwymiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pobl ifanc yng Nghymru’n derbyn y gefnogaeth a’r cyfleoedd y mae eu hangen arnynt i gyflawni eu potensial, yn...

Darllenwch fwy >
Edrych dramor am feysydd i’w gwella

Mae rhai o ymdrechion Swyddfa Eiddo Deallusol (ED) y Deyrnas Unedig i fod y Swyddfa ED orau yn y byd yn cael eu hadlewyrchu gan ei rhagolwg a’i gweithgareddau byd-eang. Mae’n gweithio gyda swyddfeydd ED tramor mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd i greu amgylchedd ED gwell i gwmnïau’r DU. Gyda’i hawch am welliant parhaus, mae ffocws byd-eang y SED yn broses ddwy ffordd: mae’r adborth y mae wedi’i gasglu gan gwsmeriaid...

Darllenwch fwy >
Adnewyddu ymgysylltiad democrataidd yng Nghymru

Ym mis Gorffennaf 2018, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru ar y pryd gynllun deddfwriaethol Llywodraeth Cymru am y 12 mis nesaf. Roedd yn cynnwys darpariaethau ar gyfer ymestyn y fasnach bleidleisio ar gyfer etholiadau llywodraeth leol i bobl ifanc 16 a 17 oed a dinasyddion o bob gwlad sy’n byw’n gyfreithlon yng Nghymru. Mae’r cynnig yn cyd-fynd â chynlluniau i ymestyn yr oedran bleidleisio i bobl ifanc 16 a 17 oed mewn etholiadau ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru...

Darllenwch fwy >
Llywio rhaglen atal gordewdra Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi nodi 10 Cam sy’n effeithio os ydy plentyn yn bwysau iach pan fyddant yn bump oed ac wedi datblygu rhaglen waith (10 Cam i Bwysau Iach) i wella gwybodaeth, agweddau ac ymddygiadau rhieni, gofalwyr a neiniau a theidiau mewn perthynas â’r 10 Cam...

Darllenwch fwy >
Yr arolwg mwyaf yn y DU o bobl ifanc a chwaraeon

Mae Beaufort wedi bod yn gyfrifol am nifer o arolygon hunan-gwblhau a gynhaliwyd ar ran Chwaraeon Cymru, gan gynnwys Arolygon Chwaraeon Ysgol ac Addysg Bellach 2018. Mae’r arolygon hyn yn rhoi mewnwelediad cyfoethog am niferoedd sy’n cymryd rhan, ymddygiadau ac agweddau plant rhwng 7 ac 16 oed ac yn darparu gwybodaeth gywir am gyflwr darpariaeth AG yn ysgolion Cymru a sefydliadau AB...

Darllenwch fwy >
Helpu’r cleient i dracio ymwybyddiaeth dros amser

Mae Comisiynydd Plant Cymru yn hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru, ac ar hyn o bryd mae Sally Holland yn y swydd. Rôl y Comisiynydd yw cefnogi, gwrando a chynghori plant a phobl ifanc o’u hawliau, dylanwadu ar y Llywodraeth a sefydliadau eraill i ystyried hawliau plant wrth ddatblygu polisïau a siarad dros blant a phobl ifanc yn genedlaethol ar faterion pwysig...

Darllenwch fwy >
Tywys meddwl cleient wrth ddewis ymgyrch

Dengys cymariaethau rhyngwladol bod goroesi canser yr ysgyfaint yn y DU yn wael, gyda Chymru y gwaethaf yn y DU. Mae Cymru yn ymroddedig i wella canlyniadau cleifion a dderbynia ddiagnosis o ganser yr ysgyfaint. Elfen allweddol yw sicrhau bod cleifion yn derbyn diagnosis yn gynharach. Mae gweithgarwch i gynyddu ymwybyddiaeth o symptomau canser yr ysgyfaint wedi digwydd yn barod yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Cymru....

Darllenwch fwy >
BETH MAE POBL YN DDWEUD AMDANOM NI

“Mae arweiniad a doethineb eich tîm wedi bod mor braf, gan helpu i ddatrys problemau ac amlygu cyfleoedd i ni ar sawl achlysur. Bu'n bleser ac rydych wedi gwneud i'r cyfan edrych mor rhwydd (er rwy'n gwybod nad yw hynny'n wir bob tro).”

Paul Tapley - Pennaeth Marchnata
Trafnidiaeth Cymru

“Cawsom gymorth gan Beaufort i roi cynnig ar syniadau creadigol cymhleth gyda grwpiau oed gwahanol. Gwnaethant reoli'r trafodaethau o fewn y grwpiau'n glir, gydag amynedd a'n helpu ni i ddeall ymateb ein cynulleidfa, ac oherwydd hynny, datblygu gwaith creadigol effeithiol.”

Jemma Gabb - Pennaeth Earned Media
Golley Slater

“Roedd Beaufort Research yn bartner allweddol ar un o brosiectau mwyaf Chwaraeon Cymru - sef yr Arolwg Chwaraeon Ysgol. Yn ystod ein 18 mis o weithio'n agos gyda thim Beaufort, cawsom ein hysbrydoli gan eu creadigwydd a'u gallu i ddatrys problemau. Roedd eu dull tuag at gyfathrebu a chydweithredu'n adfywiol, ac roedd eu sylw at fanylion yn wych. Roedd hi wir yn bleser cael cydweithio gyda nhw ar brosiect mor allweddol, mi lwyddodd ein gwaith, i raddfa helaeth ar sail eu profiad a'u harbenigedd.”

Steffan Berrow - Arweinydd Ymchwil Defnyddwyr
Chwaraeon Cymru

“Cwmni dibynadwy, gwybodus a chefnogol fydd yn eich arwain chi i ganfod data ymchwil craff a dylanwadol.”

Caroline Nichols - Ymarferydd Hyrwyddo lechyd
Tim lechyd Cyhoeddus Hywel Dda

“Helpodd Beaufort i wneud y broses profi yn llawer fy syml ac yn ddi-straen. Roedd y cyswllt rheolaidd ac ansawdd y cyngor o'r radd flaenaf, ac mae'r adborth y bu i ni ei derbyn yn yr adroddiad terfynol wedi helpu i siapio ein hymgyrch â'r deunyddiau marchnata. Roedd yn fewnwelediad gwerthfawr tu hwnt.”

Nicola Roberts - Cyfarwyddwr
Freshwater

“Fe weithiodd y prosiect "Panel Pobl" yn dda iawn i S4C, gan i staff Beaufort Research weithio'n galed i'w gael i lwyddo. Fe Iwyddodd y cwmni i gadw diddordeb y panelwyr dros gyfnod hir, sydd yn dasg anodd, ac roedd yr holl wybodaeth o ddefnydd mawr i ni. Rydym yn hapus iawn gyda'r gwaith.”

Carys Evans - Pennaeth Dadansoddi
S4C

“Mae agwed Beaufort at y gwaith hwn wedi gwneud argraff dda arnaf. Maent wedi buddsoddi amser gwerthfawr yn datblygu dealltwriaeth ddofn o'n busnes. Maent hefyd wedi dangos hyblygrwydd a phragmatiaeth wrth addasu eu hagwedd at waith maes yng ngoleunir pandemig. Yn allweddol, ni wnaeth hyn effeithio ar ansawdd ac mae'r canlyniadau cyfoethog yn eu hadroddiad terfynol wedi mynd y tu hwnt i'n disgwyliadau.”

Arthur West - Pennaeth Deall Cwsmeriaid
Y Swyddfa Eiddo Deallusol

“Darparodd Beaufort wasanaeth gwych drwy gydol y prosiect. Bu iddynt weithio ag ystod eang o randdeiliaid ar lefel uwch a thrin ein gwaith gyda sensitifrwydd, gallu a phroffesiynoldeb. Roedd yr allbynnau o safon gwych. Darparwyd diweddariadau drwy'r prosiect. Byddwn yn argymell eu defnyddio yn fawr.”

Olivia Thomas - Uwch Reolwr Polisi Morol
The Crown Estate

“Roedd gan y cyfwelwyr ddiddordeb yn y pwnc roeddynt yn ei ymchwilio ar ein rhan. Roeddynt yn ymrwymo i ddeall natur sensitif hosbisau plant cyn cysylltu â theuluoedd, a oedd yn sicrhau bod eu dull nid yn unig yn broffesiynol ond hefyd yn dosturiol a charedig.”

Clare Robinson - Rheolwr Llywodraethu a Chytundebau
Naomi House & Jacksplace

“Rydym yn falch iawn gyda’r adroddiad; mae’n broffesiynol iawn, yn taro cydbwysedd da fel cyfrif cynhwysfawr o’r data ystadegol ac yn ddarllenadwy ar yr un pryd.”

June Jones - Arweinydd  Ymgyrch
Amser i Newid Cymru

"Diolch yn fawr iawn am eich cyflwyniad ardderchog. Mae cynnwys eich sleidiau a’r gwaith yr ydych wedi’i wneud wedi ennyn cryn ddiddordeb ar draws y system, gyda nifer o geisiadau am yr adroddiadau llawn a’r canfyddiadau. Diolch unwaith eto am eich cyfraniad amhrisiadwy i’n gwaith ym maes dibyniaeth ar nicotin yng Nghymru. Gobeithiwn gael y cyfle i gydweithio â chi eto yn y dyfodol."

Rachel Howell – Prif  Ymchwilydd Iechyd Gwahardd
Iechyd Gwladol Cymru

Gadewch i ni siarad

Oes gennych chi her ymchwil neu angen mewnwelediad i lunio'ch strategaeth? Gadewch i ni siarad! Yn Beaufort Research, rydym yn ffynnu ar droi eich cwestiynau yn atebion ystyrlon sy'n ysgogi gweithredu.

Gadewch i ni siarad
Trwy glicio “Derbyn”, rydych yn cytuno i storio cwcis ar eich dyfais i wella llywio'r safle, dadansoddi defnydd o'r safle, a chynorthwyo ein hymdrechion marchnata. Gweler ein Polisi Preifatrwydd am ragor o wybodaeth.