Arolygon omnibws

Mae arolygon omnibws yn ddulliau hir sefydlog o gynnal ymchwil i’r farchnad ac ymchwil gymdeithasol.

Fel mae’r enw’n awgrymu, maent yn caniatáu i grŵp o ddefnyddwyr rannu’r un dull arolwg, gan fanteisio ar
gostau is

Mae’r rhai sydd wedi tanysgrifio i wasanaeth omnibws yn ei brynu ar sail faint o gwestiynau maent yn dymuno eu gofyn i’r sampl, â’r math o gwestiynau.

Felly, i bob pwrpas, mae pob tanysgrifiwr yn rhannu’r gost o gyfweld a chostau cyffredinol eraill gyda chyd-gleientiaid.  

Mae gan bob cleient fynediad at nifer o gwestiynau demograffeg gwahanol, a ellir eu defnyddio i ddarparu is-ddadandoddiad o ganlyniadau.

Dyddiadau arolwg Omnibws

Cynulleidfaoedd omnibus

Mae Beaufort yn cynnal pedwar arolwg Omnibws ar wahân ymhlith cynulleidfaoedd gwahanol:

Wales Omnibus Survey Icon

Omnibws
Cymru

1,000 o gyfweliadau gydag oedolion 16+ oed yng Nghymru

Darganfyddwch fwy
Business Omnibus Survey Icon

Omnibws
Busnes

500 cyfweliad gyda BBaCh
yng Nghymru

Darganfyddwch fwy
Welsh Speakers Omnibus Survey Icon

Omnibws Siaradwyr Cymraeg

400 cyfweliad gyda siaradwyr Cymraeg

Darganfyddwch fwy
Children's Omnibus Survey Icon

Omnibws
Plant

400 cyfweliad gyda phlant 7-18 oed ledled Cymru

Darganfyddwch fwy

Sut mae cleientiaid yn defnyddio'r gwasanaethau hyn

Mae'r cymwysiadau ar gyfer arolygon Omnibws yn niferus, ond mae enghreifftiau o sut mae cleientiaid wedi defnyddio'r gwasanaethau hyn yn cynnwys:

How clients use this service icons. Measuring awareness and impact

Mesur ymwybyddiaeth ac effaith
ymgyrchoedd cyfathrebu

How clients use this service icons. As an ongoing measure of customer satisfaction

Mesur parhaus o fodlonwydd
cwsmer

How clients use this service icons. To measure service awareness

I fesur ymwybyddiaeth o
gynnyrch neu wasanaeth,
defnydd ac agweddau yn erbyn cystadleuwyr

How clients use this service icons. To measure and track awareness

I fesur ac olrhain ymwybyddiaeth
a barn ar hysbysebu

How clients use this service icons. As a longitudinal measure of changes

Fel mesur hydredol o
newidiadau mewn agweddau
cymdeithasol

How clients use this service icons. To examine reactions to proposed or new legislation

I archwilio ymatebion i ddeddfwriaeth newydd neu arfaethedig

How clients use this service icons. To qualify business confidence and market buoyancy

I feintoli hyder busnes a hydwythedd y farchnad

How clients use this service icons. To measure awareness and uptake of new service offerings

I fesur ymwybyddiaeth a faint sy'n manteisio ar wasanaethau newydd

How clients use this service icons. To measure participation in a range of social and leisure activities

I fesur cyfranogiad mewn
amrywiaeth o weithgareddau
cymdeithasol a hamdden

How clients use this service icons. To monitor voting intention

I fonitro bwriad pleidleisio

BETH MAE POBL YN DDWEUD AMDANOM NI

“Mae arweiniad a doethineb eich tîm wedi bod mor braf, gan helpu i ddatrys problemau ac amlygu cyfleoedd i ni ar sawl achlysur. Bu'n bleser ac rydych wedi gwneud i'r cyfan edrych mor rhwydd (er rwy'n gwybod nad yw hynny'n wir bob tro).”

Paul Tapley - Pennaeth Marchnata
Trafnidiaeth Cymru

“Cawsom gymorth gan Beaufort i roi cynnig ar syniadau creadigol cymhleth gyda grwpiau oed gwahanol. Gwnaethant reoli'r trafodaethau o fewn y grwpiau'n glir, gydag amynedd a'n helpu ni i ddeall ymateb ein cynulleidfa, ac oherwydd hynny, datblygu gwaith creadigol effeithiol.”

Jemma Gabb - Pennaeth Earned Media
Golley Slater

“Roedd Beaufort Research yn bartner allweddol ar un o brosiectau mwyaf Chwaraeon Cymru - sef yr Arolwg Chwaraeon Ysgol. Yn ystod ein 18 mis o weithio'n agos gyda thim Beaufort, cawsom ein hysbrydoli gan eu creadigwydd a'u gallu i ddatrys problemau. Roedd eu dull tuag at gyfathrebu a chydweithredu'n adfywiol, ac roedd eu sylw at fanylion yn wych. Roedd hi wir yn bleser cael cydweithio gyda nhw ar brosiect mor allweddol, mi lwyddodd ein gwaith, i raddfa helaeth ar sail eu profiad a'u harbenigedd.”

Steffan Berrow - Arweinydd Ymchwil Defnyddwyr
Chwaraeon Cymru

“Cwmni dibynadwy, gwybodus a chefnogol fydd yn eich arwain chi i ganfod data ymchwil craff a dylanwadol.”

Caroline Nichols - Ymarferydd Hyrwyddo lechyd
Tim lechyd Cyhoeddus Hywel Dda

“Helpodd Beaufort i wneud y broses profi yn llawer fy syml ac yn ddi-straen. Roedd y cyswllt rheolaidd ac ansawdd y cyngor o'r radd flaenaf, ac mae'r adborth y bu i ni ei derbyn yn yr adroddiad terfynol wedi helpu i siapio ein hymgyrch â'r deunyddiau marchnata. Roedd yn fewnwelediad gwerthfawr tu hwnt.”

Nicola Roberts - Cyfarwyddwr
Freshwater

“Fe weithiodd y prosiect "Panel Pobl" yn dda iawn i S4C, gan i staff Beaufort Research weithio'n galed i'w gael i lwyddo. Fe Iwyddodd y cwmni i gadw diddordeb y panelwyr dros gyfnod hir, sydd yn dasg anodd, ac roedd yr holl wybodaeth o ddefnydd mawr i ni. Rydym yn hapus iawn gyda'r gwaith.”

Carys Evans - Pennaeth Dadansoddi
S4C

“Mae agwed Beaufort at y gwaith hwn wedi gwneud argraff dda arnaf. Maent wedi buddsoddi amser gwerthfawr yn datblygu dealltwriaeth ddofn o'n busnes. Maent hefyd wedi dangos hyblygrwydd a phragmatiaeth wrth addasu eu hagwedd at waith maes yng ngoleunir pandemig. Yn allweddol, ni wnaeth hyn effeithio ar ansawdd ac mae'r canlyniadau cyfoethog yn eu hadroddiad terfynol wedi mynd y tu hwnt i'n disgwyliadau.”

Arthur West - Pennaeth Deall Cwsmeriaid
Y Swyddfa Eiddo Deallusol

“Darparodd Beaufort wasanaeth gwych drwy gydol y prosiect. Bu iddynt weithio ag ystod eang o randdeiliaid ar lefel uwch a thrin ein gwaith gyda sensitifrwydd, gallu a phroffesiynoldeb. Roedd yr allbynnau o safon gwych. Darparwyd diweddariadau drwy'r prosiect. Byddwn yn argymell eu defnyddio yn fawr.”

Olivia Thomas - Uwch Reolwr Polisi Morol
The Crown Estate

“Roedd gan y cyfwelwyr ddiddordeb yn y pwnc roeddynt yn ei ymchwilio ar ein rhan. Roeddynt yn ymrwymo i ddeall natur sensitif hosbisau plant cyn cysylltu â theuluoedd, a oedd yn sicrhau bod eu dull nid yn unig yn broffesiynol ond hefyd yn dosturiol a charedig.”

Clare Robinson - Rheolwr Llywodraethu a Chytundebau
Naomi House & Jacksplace

“Rydym yn falch iawn gyda’r adroddiad; mae’n broffesiynol iawn, yn taro cydbwysedd da fel cyfrif cynhwysfawr o’r data ystadegol ac yn ddarllenadwy ar yr un pryd.”

June Jones - Arweinydd  Ymgyrch
Amser i Newid Cymru

"Diolch yn fawr iawn am eich cyflwyniad ardderchog. Mae cynnwys eich sleidiau a’r gwaith yr ydych wedi’i wneud wedi ennyn cryn ddiddordeb ar draws y system, gyda nifer o geisiadau am yr adroddiadau llawn a’r canfyddiadau. Diolch unwaith eto am eich cyfraniad amhrisiadwy i’n gwaith ym maes dibyniaeth ar nicotin yng Nghymru. Gobeithiwn gael y cyfle i gydweithio â chi eto yn y dyfodol."

Rachel Howell – Prif  Ymchwilydd Iechyd Gwahardd
Iechyd Gwladol Cymru

Gadewch i ni siarad

Oes gennych chi her ymchwil neu angen mewnwelediad i lunio'ch strategaeth? Gadewch i ni siarad! Yn Beaufort Research, rydym yn ffynnu ar droi eich cwestiynau yn atebion ystyrlon sy'n ysgogi gweithredu.

Gadewch i ni siarad
Trwy glicio “Derbyn”, rydych yn cytuno i storio cwcis ar eich dyfais i wella llywio'r safle, dadansoddi defnydd o'r safle, a chynorthwyo ein hymdrechion marchnata. Gweler ein Polisi Preifatrwydd am ragor o wybodaeth.