17/03/22

Cynnig i ostwng y terfyn cyflymder i 20mya ar strydoedd preswyl: dadansoddi ac adrodd ar ymatebion i ymgynghoriadau ac arolygon barn y cyhoedd

Comisiynwyd Beaufort gan Lywodraeth Cymru i ddadansoddi ac adrodd ar ganlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd yn haf 2021 ar y cynnig i gyflwyno terfyn cyflymder arferol o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru.

I roi canlyniadau’r ymgynghoriad hwn mewn cyd-destun, wnaethom ni cymharu’r canlyniadau â chanfyddiadau o ddwy astudiaeth ymchwil a gynhaliom ni i Lywodraeth Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf: yr arolwg barn cyhoeddus a gynhaliwyd ledled Cymru fis Tachwedd 2020 gan ddefnyddio Arolwg Omnibws Beaufort Cymru; ac ymchwil grwpiau ffocws a wnaed mewn tair ardal beilot ym Medi 2021.

Pan ofynnwyd yn yr ymgynghoriad am eu barn ar gynnig Llywodraeth Cymru i ostwng y terfyn cyflymder o 30mya i 20mya ar strydoedd preswyl, roedd ychydig yn fwy o’r rhai a ymatebodd yn gwrthwynebu’r syniad nag o’i blaid. Dywedodd 53% o ymatebwyr yr ymgynghoriad eu bod yn erbyn 20mya (47% ‘yn gryf yn erbyn’ a 6% ‘ychydig yn erbyn’), tra bod 47% o blaid (41% ‘yn gryf o blaid’ a 6% ‘ychydig o blaid’).

Roedd canlyniadau’r ymgynghoriad yn dra gwahanol i ganfyddiadau’r arolwg barn gyhoeddus a’r adborth gan y grwpiau ffocws o drigolion mewn ardaloedd peilot. Yn arolwg Omnibws Cymru, roedd dros wyth o bob deg o’r cyhoedd (81%) yn cefnogi gostyngiad yn y terfyn cyflymder i 20mya ac roedd llai na dau o bob deg (17%) yn erbyn. Mae’r gwahaniaeth yn debygol o fod o ganlyniad i’r gwahanol ddulliau samplu – roedd y sampl ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus yn hunan-ddethol, tra bod sampl yr arolwg barn wedi’i strwythuro i fod yn gynrychioliadol o’r boblogaeth yn gyffredinol, gan felly leihau tuedd hunanddewisol.

Mae’r adroddiad llawn ar gael yma.

 

Gweler sut adroddwyd y stori hon gan BBC Cymru yma.

Gweler sut adroddwyd y stori hon gan ITV Cymru yma.

Gweler sut adroddwyd y stori hon gan Wales Online yma