06/01/20

Lansio ymgyrch digartrefedd cudd

Roeddem yn falch iawn o allu gweithio ar y prosiect pwysig hwn i Lywodraeth Cymru, Shelter Cymru a SBW Advertising trwy gynnal profion creadigol i lywio datblygiad ymgyrchoedd.

Nod yr ymgyrch yw tynnu sylw at fater digartrefedd cudd yng Nghymru, gan dargedu pobl ifanc a allai fod mewn perygl o fod yn ddigartref neu eisoes yn profi digartrefedd. Mae’r ymgyrch hefyd yn cynghori’r cyhoedd ar beth i’w wneud os ydyn nhw’n poeni am rywun maen nhw’n ei adnabod.

Mae hefyd yn herio canfyddiadau o’r hyn y mae bod yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref yn ei olygu ac yn rhoi cyngor ar yr arwyddion i edrych amdanynt i helpu i adnabod rhywun a allai fod angen help.