Omnibws Plant

Mae ein Homnibws Plant yn cynnig y dull delfrydol ar gyfer asesu (ac olrhain) safbwyntiau ac ymddygiadau plant a phobl ifanc rhwng 7 ac 18 oed ledled Cymru. Cynhelir cyfweliadau drwy banel ar-lein sy’n hyblyg ac yn gost-effeithiol, sy’n sicrhau amrywiaeth eang o ddeunydd ysgogol, gan gynnwys hysbysebion teledu a digidol, i’w dangos ar eu ffurf wreiddiol.

Y nodweddion allweddol yw:

– Cael ei gynnal ddwywaith y flwyddyn ym mis Ebrill a mis Hydref.

– Sampl cwota cynrychiadol o leiafswm o 400 person ifanc rhwng 7-18 oed sy’n byw yng Nghymru.

– Wedi’i gynnal yn unol â Chanllawiau Cymdeithas Ymchwil i’r Farchnad ar ymchwil gyda phlant a phobl ifanc.

– Wedi’i gynnal yn gwbl ddwyieithog fel bod cyfranogwyr yn medru cymryd rhan drwy’u hiaith ddewisol (Cymraeg neu Saesneg).

– Cyngor arbenigol ar ddylunio holiaduron a ddarperir gan ein tîm profiadol fel rhan o’r gwasanaeth.

– Ystod lawn o opsiynau adrodd.

 

Dyddiadau arolwg Omnibws