19/10/22

Un o’r arolygon mwyaf erioed a gynhaliwyd yng Nghymru ymysg 116,000 o blant ysgol

Rydym yn falch o fod wedi ymgymryd ag un o arolygon pobl ifanc mwyaf y byd, Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022, mewn partneriaeth â Snap Surveys.

Mae’r arolwg yn rhoi cyfle i bobl ifanc leisio’u barn ynglŷn â chwaraeon a llesiant yng Nghymru, gan roi cipolwg gwerthfawr i Chwaraeon Cymru ar ymddygiadau, ymagweddau a lefelau cyfranogiad. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth fanwl gywir am gyflwr darpariaeth Addysg Gorfforol mewn ysgolion Cymru.

Cymerodd dros 116,000 o blant a phobl ifanc y cyfle i leisio’u barn am chwaraeon a’u llesiant drwy arolygon meintiol ar-lein y gellid eu hunan-gwblhau. Gofynnwyd hefyd i aelod o staff o bob ysgol gwblhau holiadur ar ddarpariaeth Addysg Gorfforol a chwaraeon yn eu hysgolion, gyda 1,000 o ysgolion yn dewis cymryd rhan. Roedd bob ysgol oedd yn cymryd rhan ac a fodlonai’r gofynion sampl ar gyfer yr arolwg yn gymwys i gael adroddiad data unigol.

Mae dyfnder y dystiolaeth a ddarparwyd gan yr arolygon hyn yn golygu y gall Chwaraeon Cymru – a’u partneriaid – wneud penderfyniadau mwy gwybodus ynghylch adnoddau buddsoddi yn y dyfodol. Gallant ddadansoddi tueddiadau newydd a datblygu chwaraeon mewn fformat sy’n ysgogi plant a phobl ifanc. Yn ogystal, mae’n galluogi Chwaraeon Cymru i archwilio grwpiau a dangynrychiolir a defnyddio’r dystiolaeth i fynd i’r afael â rhai o’r rhwystrau sy’n atal plant a phobl ifanc rhag cymryd rhan.

Gellir dod o hyd i adroddiad newyddion y BBC a gwybodaeth bellach yma: Wales’ children doing less sport outside school – survey – BBC News