OUR TEAM

Chris Timmins

Cyfarwyddwr

Mae Chris wedi gweithio fel prynwr a darparwr gwasanaethau ymchwil i’r farchnad ar draws y sector cyhoeddus a phreifat yn ystod y 25 mlynedd diwethaf.

Cychwynnodd ei yrfa yn Taylor Nelson Sofres (TNS), gan dreulio saith mlynedd yn yr adrannau Cwsmer a Chyfryngau. Mae ei brofiad ochr y cleientiaid yn cynnwys Rheolwr Ymchwil Brand Ewropeaidd yn Mars Confectionery a Phennaeth Ymchwil a Gwerthuso yn Chwaraeon Cymru, cyn iddo ymuno â Beaufort yn 2003.

Mae Chris yn arwain y tîm ansoddol yn Beaufort, ac yn gyfrifol am ddylunio ac adrodd ar ymchwil ad hoc a pharhaol. Mae ei waith yn cynnwys nifer o astudiaethau cenedlaethol sydd wedi archwilio newid cymdeithasol a deddfwriaethol yn ystod y ddau ddegawd diwethaf, gan gynnwys y gwaharddiad ar ysmygu, bagiau plastig untro a deddfwriaeth rhoi organau.

Y tu allan i’r gwaith, mae gan Chris ddiddordeb mewn bron i unrhyw agwedd o chwaraeon, ac mae’n rhedwr brwd. Yn ddiweddar, bu iddo gyflawni ei freuddwyd oes o gwblhau marathon (byth eto!), ond bellach mae’n well ganddo fwynhau Parkrun rheolaidd ar fore Sadwrn, sy’n llawer byrrach.

Newyddion blaenllaw

Newyddion diweddaraf

Daliwch i fyny ar ein newyddion a blogiau

20.12.2024
Nadolig Llawen! Cefnogi Cartref Cŵn Caerdydd

Bob blwyddyn adeg Nadolig mae Beaufort Research yn gwneud cyfraniad i elusen leol yn hytrach nag anfon...

Darllenwch fwy >
4.11.2024
Sut y gwnaeth dyddiaduron ein helpu i ymchwilio’n fanylach i arferion fepio

Credir bod dyddiaduron wedi bodoli mewn rhyw siâp neu ffurf ers i'r pyramidiau Aifft gael eu hadeiladu...

Darllenwch fwy >
3.10.2024
Cyhoeddi canfyddiadau’r arolwg newid hinsawdd

Mae gan Lywodraeth Cymru sawl ymrwymiad i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys...

Darllenwch fwy >
18.3.2024
Ystyried sut i hyrwyddo tegwch yn system gymwysterau Cymru

Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi gwaith ansoddol a gynhaliwyd gan Beaufort ar...

Darllenwch fwy >

Gadewch i ni siarad

Oes gennych chi her ymchwil neu angen mewnwelediad i lunio'ch strategaeth? Gadewch i ni siarad! Yn Beaufort Research, rydym yn ffynnu ar droi eich cwestiynau yn atebion ystyrlon sy'n ysgogi gweithredu.

Gadewch i ni siarad
Trwy glicio “Derbyn”, rydych yn cytuno i storio cwcis ar eich dyfais i wella llywio'r safle, dadansoddi defnydd o'r safle, a chynorthwyo ein hymdrechion marchnata. Gweler ein Polisi Preifatrwydd am ragor o wybodaeth.