18.03.2024

Ystyried sut i hyrwyddo tegwch yn system gymwysterau Cymru

Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi gwaith ansoddol a gynhaliwyd gan Beaufort ar gydraddoldeb, tegwch a chynhwysiant mewn cymwysterau nad ydynt yn raddau a’r system yng Nghymru.

Ymchwiliwyd i’r pwnc gyda chymysgedd o randdeiliaid o Cymwysterau Cymru  a rhieni. Fel rhan o’r drafodaeth â rhanddeiliaid, defnyddiwyd vignettes ffuglennol. Roedd y rhain yn ein helpu i ystyried sut mae cydraddoldeb, tegwch a chynhwysiant yn edrych, neu sut nad ydynt yn edrych o bosib, ac yn ffordd o ennyn barn ar ganlyniadau anfwriadol posib.

Wrth feddwl am gydraddoldeb, tegwch a chynhwysiant (CTC), ystyriodd y rhanddeiliaid  ystod o ffactorau, gan gynnwys:

– Darparu cymwysterau hygyrch sy’n diwallu anghenion pob dysgwr
– Sicrhau chwarae teg
– Dileu rhwystrau, yn enwedig y rhai sy’n gysylltiedig ag agweddau cymdeithasol a diwylliannol
– Amrywiaeth y dysgwyr mewn rhai cymwysterau, megis merched yn dilyn pynciau STEM neu ddysgwyr anabl yn dilyn prentisiaethau
– Ymagwedd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn

Roedd rhai o gyfranogwyr yr astudiaeth yn aml yn meddwl am ffactorau sy’n berthnasol i CTC a oedd yn mynd y tu hwnt i gymwysterau a’r system addysg, gan gynnwys tlodi plant a rhesymau economaidd-gymdeithasol eraill.

Mae Cymwysterau Cymru yn cydnabod arwyddocâd meithrin system gymwysterau deg a chyfiawn sy’n darparu cyfleoedd i bob dysgwr, waeth beth fo’i gefndir, ei alluoedd na’i amgylchiadau. Wrth sôn am yr ymchwil, gwnaeth Tom Anderson, Pennaeth Ymchwil ac Ystadegau Cymwysterau Cymru, y sylw fod ein canlyniadau’n rhoi ‘awgrymiadau defnyddiol i ni ar sut y gallem hyrwyddo tegwch yn y system gymwysterau’.

Gadewch i ni siarad

Oes gennych chi her ymchwil neu angen mewnwelediad i lunio'ch strategaeth? Gadewch i ni siarad! Yn Beaufort Research, rydym yn ffynnu ar droi eich cwestiynau yn atebion ystyrlon sy'n ysgogi gweithredu.

Gadewch i ni siarad
Trwy glicio “Derbyn”, rydych yn cytuno i storio cwcis ar eich dyfais i wella llywio'r safle, dadansoddi defnydd o'r safle, a chynorthwyo ein hymdrechion marchnata. Gweler ein Polisi Preifatrwydd am ragor o wybodaeth.