P’un ai eich bod angen asesu hyder busnes, mesur ymwybyddiaeth a faint o bobl sy’n manteisio ar wasanaeth newydd neu eisiau trafod barn busnes yng Nghymru, mae Arolwg Omnibws Busnes Beaufort yn eich galluogi i wneud hyn yn gyflym ac yn gost-effeithiol.
Mae’r gwasanaeth yn siarad â sampl gynrychiadol o 500 o swyddogion sy’n gwneud penderfyniadau ar lefel uwch mewn BBaCh yng Nghymru tair gwaith y flwyddyn
Cael ei gynnal ym mis Chwefror, Mehefin a mis Hydref.
Cynrychioli BBaCh wedi’u lleoli yng Nghymru gyda chwotâu ar ranbarthau, gweithgareddau busnes (SIC) a maint busnesau.
Cael ei gynnal gan ddefnyddio CATI (Cyfweliadau Dros y Ffôn gyda Chymorth Cyfrifiadur).
Wedi’i gynnal yn gwbl ddwyieithog fel bod cyfranogwyr yn medru cymryd rhan drwy’u hiaith ddewisol (Cymraeg neu Saesneg).
Cyngor arbenigol ar ddylunio holiaduron a ddarperir gan ein tîm profiadol fel rhan o’r gwasanaeth.
Ystod lawn o opsiynau adrodd.
Oes gennych chi her ymchwil neu angen mewnwelediad i lunio'ch strategaeth? Gadewch i ni siarad! Yn Beaufort Research, rydym yn ffynnu ar droi eich cwestiynau yn atebion ystyrlon sy'n ysgogi gweithredu.