Arolygon Omnibws
Omnibws Cymru
Wales omnibus survey main page header image

Nodweddion allweddol

Mae Omnibws Cymru yn ddelfrydol os oes angen mewnwelediad arnoch chi i safbwyntiau’r cyhoedd yng Nghymru. Rydym yn arolygu sampl cynrychiolaeth fawr o 1,000 o oedolion ledled Cymru pum gwaith y flwyddyn gan ddefnyddio panel ar-lein.

Dyddiadau arolwg Omnibws
  • Hyder yn y ffaith bod yr unigolion sy’n cael eu cyfweld yn gynrychiolaeth gywir o boblogaeth Cymru. Mae rheolaethau cwota demograffig sy’n cyd-gloi wedi’u gosod ar oedran o fewn rhywedd, gyda chwota pellach ar radd gymdeithasol. Cynhaliwyd cyfweliadau â thrigolion o bob awdurdod lleol yng Nghymru.

  • Cynhelir arolygon pum gwaith y flwyddyn – ym mis Ionawr, Mawrth, Mehefin, Medi a Thachwedd.

  • Gellir dangos mesuriadau adalw cywir ar gyfer hysbysebu neu agweddau gweledol eraill fel amrywiaeth o ddeunydd ysgogol, gan gynnwys hysbysebion Teledu, radio a digidol, drwy ein meddalwedd casglu data.

  • Hunan-gwblhau, gan osgoi’r angen am gyfwelydd a gellid dadlau ei fod yn arwain at atebion mwy gonest ar bynciau a allai fod yn agored i duedd dymunoldeb cymdeithasol.

  • Effeithiolrwydd cost.

  • Wedi’i gynnal yn gwbl ddwyieithog fel bod cyfranogwyr yn medru cymryd rhan drwy’u hiaith ddewisol (Cymraeg neu Saesneg).

  • Cyngor arbenigol ar ddylunio holiaduron a ddarperir gan ein tîm profiadol fel rhan o’r gwasanaeth.

  • Ystod lawn o opsiynau adrodd.

Gadewch i ni siarad

Oes gennych chi her ymchwil neu angen mewnwelediad i lunio'ch strategaeth? Gadewch i ni siarad! Yn Beaufort Research, rydym yn ffynnu ar droi eich cwestiynau yn atebion ystyrlon sy'n ysgogi gweithredu.

Gadewch i ni siarad
Trwy glicio “Derbyn”, rydych yn cytuno i storio cwcis ar eich dyfais i wella llywio'r safle, dadansoddi defnydd o'r safle, a chynorthwyo ein hymdrechion marchnata. Gweler ein Polisi Preifatrwydd am ragor o wybodaeth.